Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn falch o gyhoeddi heddiw bod Canllaw ar-lein ynglŷn â Sgyrsiau Llesiant ar gyfer y Gweithlu wedi’i lansio i’w ddefnyddio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Wrth i effaith lawn y pandemig barhau i ddod i’r amlwg, mae’r ffocws sydd wedi’i dargedu ar iechyd a llesiant staff ein GIG a’n sector gofal cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Mae’r canllaw ar-lein hwn yn fan cychwyn ar gyfer staff i annog sgyrsiau ynglŷn â’u profiadau yn y gwaith ac archwilio sut y mae’r rhain yn dylanwadu ar lesiant. Gellir defnyddio’r canllaw hwn mewn modd hyblyg i sicrhau ei fod yn addas i unigolion a thimoedd.

Croesawom yr adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru a oedd yn canmol y modd y mae cyrff y GIG wedi gwella eu cynnig llesiant i staff yn ystod y pandemig. Yn ogystal, rydym wedi gweithio’n galed mewn cydweithrediad â chydweithwyr gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau bod adnoddau ychwanegol ar gael. Bydd y Canllaw Sgyrsiau Llesiant ar gyfer y Gweithlu sy’n cael ei lansio heddiw yn ei gwneud yn haws i staff adnabod pa fath o gefnogaeth fydd efallai yn cael yr effaith fwyaf, yn ogystal â’u cyfeirio at yr adnoddau mwyaf priodol.

Rydym yn benderfynol o sicrhau bod ein cynnig llesiant aml-haen ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fod yn addas i’r diben, a’i fod ar gael pan fo staff ei angen fwyaf. Rydym yn ddiolchgar i gydweithwyr yn GIG Cymru a’r sector Gofal Cymdeithasol sydd wedi dod ynghyd mewn partneriaeth i ddatblygu’r ychwanegiad diweddaraf hwn at yr adnoddau sydd ar gael.

Bydd yr adborth gan ddefnyddwyr yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu’r adnodd hwn er mwyn sicrhau ein bod yn darparu rhywbeth defnyddiol ac ymarferol. Edrychwn ymlaen at gael yr adborth hwn a chael gwybod sut y mae’r adnodd yn cynorthwyo i gefnogi sgyrsiau hanfodol.