Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae canllawiau newydd i safleoedd prosesu cig a chynhyrchu bwyd ynglŷn ag atal a rheoli achosion o’r coronafeirws wedi’u cyflwyno i’r sector heddiw.

Mae’r canllawiau wedi’u datblygu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac asiantaethau allweddol eraill gan gynnwys Undebau Llafur, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, yn dilyn achosion diweddar mewn tri safle prosesu cig a chynhyrchu bwyd yng Nghymru.

Mae’r canllawiau newydd yn rhoi cyngor clir i’r sector ar amryw o bethau gan gynnwys:

  • Gweithdrefnau i reoli achosion a amheuir, gan gynnwys gwybodaeth am wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru
  • Asesiad risg yn y gweithle
  • Cyfathrebu gyda gweithwyr
  • Llety a rennir a thrafnidiaeth i’r safle
  • Mynediad i’r safle a chadw pellter corfforol ar y safle, gan gynnwys mewn ardaloedd cymunol
  • Hylendid bwyd.