Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yw canolbwynt ein rhaglen i weddnewid yr addysg a'r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yng Nghymru.  

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r cyntaf mewn cyfres o ganllawiau sy'n esbonio sut y caiff y Ddeddf ei gweithredu. Mae'n canolbwyntio ar weithredu cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac yn iau.

Mae'r canllaw yn amlinellu'r amserlen orfodol arfaethedig i’w chyflwyno’n raddol ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion i drosglwyddo plant â chynlluniau anghenion addysgol arbennig - ee datganiadau a chynlluniau addysg unigol – i’r system newydd. O dan y system newydd, bydd gan blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol hawl i gael cynlluniau datblygu unigol.

Bydd y broses o drosi’r datganiadau yn digwydd dros gyfnod o ddwy flynedd, a'r broses o drosi cynlluniau ar gyfer dysgwyr o ran gweithredu yn y blynyddoedd cynnar, gweithredu gan yr ysgol, gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy a gweithredu gan yr ysgol a mwy yn digwydd dros dair blynedd.

Seiliwyd y cynllun graddol ar safbwyntiau rhanddeiliaid a ymatebodd i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar sut y dylid gweithredu'r Ddeddf. O edrych ar ganlyniadau'r ymgynghoriad, daeth i'r amlwg bod yna gefnogaeth gref i weithredu'r system ADY mewn ffordd raddol. Gan mwyaf, roedd y rhanddeiliaid yn cytuno mai pennu amserlenni cenedlaethol ar gyfer trosglwyddo carfanau penodol o blant a phobl ifanc i'r system newydd fyddai'r dull hawsaf i'w reoli a'r dull mwyaf cyson.

Mae'r dull graddol yn rhoi blaenoriaeth i drosglwyddo dysgwyr â datganiadau ac yn golygu y bydd llwyth gwaith yn cael ei rannu'n fwy cyfartal rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion. Hefyd, mae'r dull yn canolbwyntio ar y dysgwyr ieuengaf, er mwyn hwyluso’r gwaith o ymyrryd yn gynnar ac yn effeithiol a hefyd ar y dysgwyr hynny sy'n agosáu at bwyntiau cynnydd allweddol, er mwyn hwyluso’r gwaith o gynllunio prosesau trosglwyddo effeithiol ar gyfer dysgwyr ag ADY.  

Lluniwyd y canllawiau i'w defnyddio gan sefydliadau sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf. Bydd y canllaw a gyhoeddir heddiw o ddiddordeb penodol i awdurdodau lleol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, staff addysgu mewn ysgolion a chydlynwyr anghenion addysgol arbennig/cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol.

Maes o law, cyhoeddir gwybodaeth i rieni - i esbonio beth mae'r system newydd yn ei olygu i blant a phobl ifanc, gan gynnwys sut a phryd y gallant fanteisio ar eu hawliau newydd o dan y Ddeddf.

Rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi canllawiau pellach a fydd yn amlinellu'r trefniadau ar gyfer gweithredu agweddau penodol ar y system ADY, ee addysg bellach, gan gynnwys addysg ôl-16 arbenigol.

Bydd y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol yn gosod gofynion ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ac yn cynnwys canllawiau ar sut i arfer y swyddogaethau hynny o dan y Ddeddf. Disgwylir i fersiwn ddrafft o’r Cod gael ei chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn nes ymlaen yn nhymor yr hydref.

Mae’r canllawiau i weithredu’r cynlluniau datblygu unigol ar gyfer plant o oedran ysgol gorfodol ac yn iau ar gael yn:


https://beta.llyw.cymru/canllaw-gweithredu-deddf-anghenion-dysgu-ychwanegol-ar-tribiwnlys-addysg-cymru-ar-gyfer-cynlluniau