Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw yn cyhoeddi canllawiau anstatudol newydd i awdurdodau lleol ar addysg ddewisol gartref. Mae'r canllawiau wedi’u cynllunio i helpu awdurdodau lleol i gefnogi teuluoedd sy’n addysgu gartref a chreu dull mwy cyson o ddarparu’r gefnogaeth honno. Byddant hefyd yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu a gwella eu gwybodaeth am addysg gartref.

Er bod ein canllawiau newydd yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng hawliau’r plentyn i gael addysg addas, i gael ei glywed ac i fod yn ddiogel, a hawliau’r rhieni i addysgu gartref, credaf fod angen i ni addasu dull mwy cadarn o ddarparu addysg i bob plentyn, ni waeth ymhle y darperir yr addysg honno. Bydd y canllawiau hyn yn rhan o becyn o fesurau rwyf yn eu hystyried i gefnogi awdurdodau lleol, y gymuned addysgu gartref a darparwyr amgen, yn cynnwys y potensial o gyflwyno deddfwriaeth.  

Bydd y mesurau eraill hynny yn cymryd amser i ddatblygu. Yn y cyfamser, byddwn yn cynnig hyfforddiant i awdurdodau lleol ar ddefnyddio'r canllawiau newydd.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’r rheini sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r canllawiau.

http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/pupilsupport/elective-home-education-guidance/?skip=1&lang=cy