Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd cyngor polisi cynllunio newydd ar lifogydd ac erydu arfordirol, a ryddhawyd heddiw, yn dod i rym o ddydd Mercher 1 Rhagfyr. Mae Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 15: datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio newydd yn cyflwyno newidiadau pwysig i'r ffordd y mae risgiau llifogydd ac erydu arfordirol yn cael eu hystyried yn y broses ddatblygu a chynllunio.

Mae'r risg o lifogydd yng Nghymru yn cynyddu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae llifogydd difrifol yn digwydd yn amlach a bydd rhai ardaloedd sydd heb lawer o risg ar hyn o bryd yn dod yn agored i lifogydd wrth i'n hinsawdd barhau i newid. Mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn cydnabod y gall y system gynllunio helpu cymunedau i fod yn fwy gwydn i effeithiau newid yn yr hinsawdd trwy leoli datblygiad mewn ardaloedd i ffwrdd o risg llifogydd. Gall gwell gwybodaeth am y lleoedd a fydd mewn perygl yn y dyfodol helpu i gadw pobl yn ddiogel, trwy atal y difrod i gartrefi, gweithleoedd a seilwaith y gall llifogydd eu hachosi.

Mae TAN 15 yn darparu cyngor cynllunio sy'n llywio cynlluniau datblygu lleol a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd sydd yn wynebu risg o lifogydd ac erydu arfordirol. Bydd yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gyfeirio datblygiad i ffwrdd o ardaloedd sydd yn wynebu risg o lifogydd ac erydu arfordirol.

Mae TAN 15 yn glir na ddylid lleoli datblygiadau newydd o gartrefi a mathau eraill o ddefnydd tir sy’n agored iawn i niwed, fel y gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai, mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd heb amddiffynfeydd llifogydd cryf. Os yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cymeradwyo unrhyw gais cynllunio yn erbyn y cyngor hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu ac yn gallu penderfynu ar y cais yn uniongyrchol.

Ar gyfer pob math o ddatblygiadau mewn ardaloedd risg isel ac ardaloedd a ddiogelir gan amddiffynfeydd llifogydd cryf, ac ar gyfer datblygiadau llai agored i niwed mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd, bydd sicrhau caniatâd cynllunio yn dibynnu ar basio'r profion derbynioldeb yn TAN 15. Mae'r profion hyn yn cynnwys darparu cyfiawnhad dros y lleoliad mewn ardal risg llifogydd, bod ar dir llwyd a bod yn wydn pe bai llifogydd yn digwydd.  Mae TAN 15 hefyd yn glir nad yw adeiladu amddiffynfeydd peirianegol newydd er mwyn galluogi datblygiad ar dir glas yn ffordd briodol na chynaliadwy o fynd i’r afael â’r risgiau llifogydd rydym yn eu hwynebu.

Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn nodi pedwar math o barth llifogydd, gyda phob parth â chyngor penodol yn TAN 15 ar gyfer datblygiadau arfaethedig. Mae'r parthau llifogydd yn seiliedig ar y lefelau risg cyfredol gyda lwfansau ychwanegol ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Maent felly'n cynnwys ardaloedd yr ystyrir eu bod yn debygol o fod mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol, gan alluogi penderfyniadau cynllunio i ystyried yn uniongyrchol effaith ddisgwyliedig newid yn yr hinsawdd ar risg llifogydd. Cyhoeddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a bydd yn cael ei ddiweddaru bob 6 mis, ym mis Mai a mis Tachwedd bob blwyddyn, i adlewyrchu'r modelu a'r data diweddaraf ar y risg o lifogydd.

Mae’r TAN 15 a’r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio newydd wedi eu rhyddhau heddiw i ganiatáu i awdurdodau cynllunio a datblygwyr baratoi ar eu cyfer yn dod i rym ar 1 Rhagfyr. O'r dyddiad hwnnw, bydd pob cais cynllunio sy'n aros am benderfyniad, a phob cais cynllunio newydd, yn cael eu hasesu yn erbyn y cyngor a'r map newydd. Rhaid i unrhyw Gynllun Datblygu Lleol sy'n cael ei adolygu ond sydd eto i gyrraedd y cam arholi ffurfiol hefyd ddefnyddio'r TAN 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio newydd ar ôl 1 Rhagfyr.

Mae'r TAN 15 a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio newydd yn disodli fersiwn 2004 o TAN 15 a'r map cyngor datblygu. Bydd Nodyn Cyngor Technegol 14: Cynllunio Arfordirol hefyd yn cael ei ganslo o ganlyniad i gyhoeddi'r TAN 15. Mae’r lwfansau newid hinsawdd diweddaraf y mae'n rhaid eu cynnwys mewn asesiadau canlyniadau llifogydd hefyd wedi'u cyhoeddi heddiw.

Dolenni – ar gael am 10:00 ar ddydd Mawrth 28 Medi

TAN 15 newydd - https://llyw.cymru/nodyn-cyngor-technegol-tan-15-datblygu-llifogydd-ac-erydu-arfordirol

Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio – https://map-llifogydd-ar-gyfer-cynllunio.cyfoethnaturiol.cymru/

Y Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru - https://llyw.cymru/strategaeth-genedlaethol-ar-gyfer-rheoli-perygl-llifogydd-ac-erydu-arfordirol-yng-nghymru