Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) ganllawiau drafft Rheoli Anymataliaeth Wrinol a Phrolaps Organau'r Pelfis ar gyfer ymgynghoriad ar 9 Hydref, i ddiweddaru canllawiau CG171 a gyhoeddwyd gan NICE yn 2013.  

Rwy'n croesawu'r canllawiau drafft a bwriad NICE i gynnal ymgynghoriad, sydd bellach cryn dipyn yn ehangach ei gwmpas. Mae'n cynnwys rheoli anymataliaeth wrinol ymysg menywod a rheoli phrolaps organau'r pelfis ac, yn bwysig iawn, rheoli menywod â chymhlethdodau yr amheuir eu bod yn gysylltiedig â llawdriniaeth rhwyll. Mae'r canllawiau hefyd yn argymell nifer o feysydd ar gyfer ymchwil pellach.

Mae'r canllawiau yn gyson ag argymhellion a wnaed ym mis Gorffennaf gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y defnydd o Rwyll a Thâp, yn arbennig o ran y defnydd o opsiynau eraill yn lle llawdriniaeth yn y lle cyntaf; yr angen am gydsyniad ar sail gwybodaeth lawn, gan hysbysu'r menywod yn llawn am beryglon y driniaeth a rhoi gwybodaeth ysgrifenedig iddynt am y mewnblaniad; cofnodi gwybodaeth am weithdrefnau a chanlyniadau ar gofrestr genedlaethol a phwysigrwydd timau amlddisgyblaethol lleol, rhanbarthol ac arbenigol.    

Mae'r canllawiau hefyd yn adlewyrchu'r argymhellion cychwynnol a wnaed gan adolygiad y Farwnes Cumberlege a'r trefniadau 'gwyliadwriaeth uchel' dilynol a anfonwyd at glinigwyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru.  

Mae'r canllawiau drafft wedi cael eu cyfeirio at y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod a sefydlais i weithredu argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar y defnydd o Rwyll a Thâp, er mwyn iddynt eu hystyried yn llawn a chyfeirio atynt yn eu gwaith gweithredu ehangach, sy’n cael £1m o gefnogaeth yn flynyddol.

Daw'r ymgynghoriad ar y canllawiau drafft i ben ar 19 Tachwedd, a gellir ei weld yma:

https://www.nice.org.uk/guidance/indevelopment/gid-ng10035/consultation/html-content-2