Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw wedi cyhoeddi canllawiau wedi’u cydgrynhoi ar gyfer prif gynghorau yng Nghymru. Cyfuniad ydynt o wahanol ganllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ac maent wedi’u diweddaru i adlewyrchu'n well y ddeddfwriaeth a'r arferion presennol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth, gallu digidol a bod yn agored a thryloyw.

Maent hefyd yn ategu’r darpariaethau a gynhwysir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan gynnwys:

  • Strategaethau cyfranogiad y cyhoedd
  • Cyfarfodydd aml-leoliad
  • Cynlluniau Deisebau
  • Penodi cynorthwywyr i weithrediaethau
  • Dyletswydd arweinwyr grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad
  • Dyletswydd pwyllgorau Safonau i wneud adroddiadau blynyddol.

O ganlyniad i gydgrynhoi’r canllawiau hyn fel y maent yn berthnasol i brif gynghorau, mae angen cyhoeddi canllawiau ar wahân ar gyfer y darpariaethau hynny sy'n berthnasol i awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol ac awdurdodau iechyd porthladdoedd. Felly, rwyf yn cyhoeddi’r canlynol hefyd: