Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y cynigion ar gyfer canllawiau statudol ar addysg yn y cartref a rheoliadau drafft y gronfa ddata addysg.

Mae'r ymateb cenedlaethol i Covid-19, sy'n datblygu'n barhaus, wedi cael effaith sylweddol ar adnoddau Llywodraeth Cymru - mae hyn yn cynnwys yr adnoddau ariannol a pholisi ac, wrth gwrs, y cynlluniau deddfwriaethol ar gyfer tymor y Llywodraeth hon.

Mae datblygu'r cynigion ar gyfer y canllawiau statudol ar addysg yn y cartref a rheoliadau drafft y gronfa ddata addysg wedi bod yn flaenoriaeth i mi. Fodd bynnag, mae angen adnoddau sylweddol i'w cyflawni. 

Mae'r pwysau newydd ar waith bob dydd Llywodraeth Cymru ac effaith sylweddol Covid-19 ar ein hadnoddau wedi golygu ein bod wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn. Bellach, ni fydd yn bosibl cwblhau'r gwaith a gynlluniwyd ar y canllawiau statudol ar addysg yn y cartref a rheoliadau drafft y gronfa ddata addysg yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch yn fawr i'r rhanddeiliaid hynny sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynigion, ac yn enwedig y rheini a wnaeth ymateb i'r ymgynghoriadau.

Er fy mod yn siomedig na allwn barhau i ddatblygu'r cynigion hyn, rwy'n gobeithio y bydd modd i'r diwygiadau gael eu cyflwyno gan y Llywodraeth nesaf cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser, bydd swyddogion y Llywodraeth yn archwilio opsiynau polisi posibl ar gyfer diwallu anghenion plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref.

Mae hwn yn gyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen, ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno bod yn rhaid blaenoriaethu adnoddau i reoli effaith Covid-19 yng Nghymru.