Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi’r Canllawiau Statudol ar Ofal Plant, a fydd yn helpu awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau statudol o dan adrannau 22, 26 a 27 o Ddeddf Gofal Plant 2006, ac adran 118A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, sef:

  • sicrhau bod gofal plant digonol ar gael
  • cynnal ac adolygu asesiadau digonolrwydd gofal plant
  • rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, darpar rieni a’r sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant neu ofal am blentyn, yn ymwneud â gofal plant.

Bydd y canllawiau yn ategu’r materion a argymhellir yn Rheoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2016.

Maent hefyd yn diweddaru’r wybodaeth am bŵer awdurdod lleol i ddarparu gofal plant, ei drefniadau â darparwyr gofal plant, a’r taliadau pan ddarperir gofal plant o dan adrannau 23, 24 a 25 o Ddeddf Gofal Plant 2006.

Ystyriwyd safbwyntiau’r gweithgor gofal plant anffurfiol hefyd, wrth fireinio’r broses o asesu digonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant, mewn perthynas â dyletswydd awdurdod lleol i asesu a diogelu darpariaeth gofal plant ddigonol a fydd yn sicrhau’r canlynol yn y dyfodol:

  • dull mwy cyson a safonedig o gasglu a chofnodi data er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni cenedlaethol a darparu darlun o’r ddarpariaeth ledled Cymru
  • ffynhonnell wybodaeth haws ei defnyddio, a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i reoli ac asesu’n effeithlon ddigonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant
  • mwy o eglurder ymhlith awdurdodau lleol am yr wybodaeth i’w chasglu a sicrwydd bod gofynion statudol y ddyletswydd yn cael eu cyflawni; 
  • dull gweithredu sy’n llai beichus ac yn fwy cymesur
  • bod y prif brosesau cynllunio ac asesu wedi’u halinio a’u hintegreiddio’n well ar lefel leol a chenedlaethol.

Hoffwn gydnabod ymdrechion y gweithgor rhanddeiliaid ar ofal plant am eu gwaith i’n helpu i lunio’r canllawiau diwygiedig.