Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canlyniad ei hadolygiad o Ddeddf Marchnad Fewnol 2020 ("y Ddeddf") ac wedi gosod adroddiad yn y Senedd, sydd ar gael yma

Mae'r adolygiad yn adeiladu ar ymrwymiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth y DU ym mis Rhagfyr 2024, a oedd yn cynnwys ailymrwymo i egwyddorion y Fframweithiau Cyffredin. Bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y newidiadau ychwanegol canlynol i weithrediad y Ddeddf.

The UK Government will:

  • implement UK Internal Market Act exclusions that have been agreed by all governments within a Common Framework;
  • alongside economic impacts, consider in particular environmental protection and public health in UK Internal Market Act exclusions, thereby ensuring a balance of factors is considered;
  • establish a Minimum Economic Impact process for considering smaller exclusions, and implement them where all governments agree the exclusion has an economic impact of less than £10 million a year;
  • implement a “reserve” exclusions process where it has not been possible for all four governments to reach agreement on an exclusion;
  • work with the devolved governments to agree processes for how all four governments engage with businesses and other stakeholders on matters being discussed in Common Frameworks; and
  • work with the devolved governments to agree a process for all four governments to jointly refer UK internal market matters for advice to the Office for the Internal Market.” 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i'n cenhadaeth economaidd o swyddi a thwf cynaliadwy. Mae economi Cymru yn dibynnu ar weithrediad llyfn marchnad fewnol y DU ac rydym wedi ymrwymo i chwarae ein rhan yn y broses o'i chefnogi a'i chryfhau. Mae angen dull o lywodraethu marchnad fewnol y DU arnom sy'n gweithio gyda hanfodion datganoli ac yn parchu ein mandad democrataidd. 

Mae'r ymrwymiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU ar ôl yr adolygiad yn ddechrau da tuag at y nod hwn. Rydym yn croesawu'n arbennig yr ymrwymiad i weithredu unrhyw eithriadau y cytunwyd arnynt trwy Fframweithiau Cyffredin, a ddylai wella sut mae marchnad fewnol y DU yn gweithio. Mae'r Fframweithiau Cyffredin yn gweithredu ar set glir o egwyddorion sy'n parchu datganoli ac yn cynnwys systemau datrys anghydfodau. 

Fodd bynnag, ein barn gyson a hir dymor yw y dylai'r Ddeddf gael ei diddymu a'i disodli gan system, wedi'i hategu gan ddeddfwriaeth, wedi'i chynllunio o amgylch y Fframweithiau Cyffredin ac sy'n cynnal y trefniadau diogelu angenrheidiol i gefnogi Fframwaith Windsor. 

Er hyn, rydym wedi ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU drwy gydol yr adolygiad er mwyn cyflwyno cynigion i leihau effaith y Ddeddf ar effeithiolrwydd polisïau a deddfwriaeth ddatganoledig. Rhaid i'r Ddeddf weithredu er budd pob un o'r pedair gwlad. 

Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar rai o'r manylion sy'n gysylltiedig â'r ymrwymiadau hyn, yn enwedig i helpu i sicrhau bod y broses eithriadau 'a gedwir yn ôl' yn wrthrychol ac yn dryloyw yn yr un modd â phrosesau'r Fframweithiau Cyffredin. 

Byddwn yn parhau i gyflwyno'n hachos dros newidiadau statudol i'r Ddeddf er mwyn sicrhau nad yw’n cael ei chamddefnyddio a gwella’r ffordd y mae’n gweithio ochr yn ochr â'r setliadau datganoli.  Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau anstatudol a wnaed gan Lywodraeth y DU, ond nid ydynt yn atal Llywodraethau'r DU yn y dyfodol rhag camddefnyddio’r Ddeddf i orfodi dewisiadau polisi Lloegr mewn polisïau datganoledig yr effeithir arnynt. Mae academyddion, Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad y Senedd, a Llywodraeth Cymru yn cefnogi diwygio deddfwriaethol. 

Byddwn hefyd yn parhau i fynd ar drywydd cyhoeddi defnydd o Bwerau Cymorth Ariannol na chawsant eu cynnwys yng nghwmpas yr adolygiad hwn. Nid yw'r pwerau hyn yn gysylltiedig â gweithrediad marchnad fewnol y DU, ac maent yn tanseilio agwedd sylfaenol ar ddatganoli. Mae mecanweithiau sefydledig i Lywodraeth y DU fuddsoddi yng Nghymru heb hawl i'r pwerau hyn. 

Er gwaethaf y pryderon hyn, rwy'n croesawu'r newidiadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU fel cam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i gefnogi rhagor o eglurhad am y newidiadau arfaethedig, a'u rhoi ar waith.