Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, cynhaliwyd ail gyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar 10 Mai 2023. Yn Weinidog arweiniol ar gyfer y Grŵp hwn, gofynnais i’r Gweinidog Newid Hinsawdd gadeirio’r cyfarfod  gan fod eitemau’r agenda yn dod o dan ei phortffolio hi. Yn wreiddiol, roedd y cyfarfod hwn wedi’i drefnu at 10 Hydref 2022 ond fe’i gohiriwyd ar gais Llywodraeth y DU.

Nid oedd Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gallu bod yn bresennol ar y diwrnod a rhannodd hi ei hymddiheuriadau. Cynrychiolwyd Llywodraeth Cymru gan: Emma Williams, y Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio; Sarah Rhodes, y Pennaeth Atal Digartrefedd; Andrea Street, y Dirprwy Gyfarwyddwr Safonau a Rheoleiddio Diogelwch Tai; a Jo Larner, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau.

Ar ran Llywodraeth yr Alban, roedd Paul McLennan ASA, y Gweinidog Tai yn bresennol yn y cyfarfod, ac yn absenoldeb y Gweinidog Newid Hinsawdd, cytunodd i gadeirio’r cyfarfod. Cynrychiolwyd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gan Mark O’Donnell, y Dirprwy Ysgrifennydd Tai, Adfywio Trefol a Llywodraeth Leol; Paul Price, y Cyfarwyddwr Polisi Tai Cymdeithasol a Kieran Devlin, y Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyflenwad Tai. O Lywodraeth y DU, roedd Felicity Buchan AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Tai a Chysgu Allan ac ar gyfer yr Undeb a’r Cyfansoddiad yn bresennol er nid oedd yn bresennol ar gyfer yr eitem diogelwch adeiladau yn sgil ei chyswllt etholaethol â Grenfell. Hefyd yn bresennol yr oedd Lee Rowley AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar gyfer Llywodraeth Leol a Diogelwch Adeiladau.

Digartrefedd oedd yr eitem o bwys ar yr agenda a thrafododd y grŵp y blaenoriaethau a’r heriau cyffredin y mae pob llywodraeth yn eu hwynebu o ran mynd i’r afael â digartrefedd. Roedd gwneud i’r Sector Rhentu Preifat weithio er mwyn atal digartrefedd a blaenoriaethu mesurau atal wedi’u targedu yn feysydd ffocws allweddol. Er, yng nghyd-destun digartrefedd, trafodwyd bod effeithiau costau byw, y rhyfel yn Wcráin ac argyfyngau dyngarol eraill yn bryderon a rennir. Mae heriau cyffredin hefyd o ran cyfraddau Lwfans Tai Lleol, cadernid gweithluoedd a nifer y bobl sydd mewn llety dros dro. Trafodwyd hefyd y cynnydd sydd wedi’i wneud ar faterion diogelwch adeiladau ers cyfarfod cychwynnol y Grŵp Rhyngweinidogol.

Cydnabuwyd y berthynas waith gadarnhaol sydd rhwng swyddogion ym meysydd diogelwch adeiladau a digartrefedd a chytunwyd i’r cydweithio ar y lefel hon barhau. Cytunodd y grŵp y byddai Llywodraeth yr Alban yn cynnal y cyfarfod nesaf sy’n debygol o gael ei drefnu at yr hydref. Bydd swyddogion yn cydweithio yn awr i nodi dyddiad penodol ac eitemau addas ar gyfer yr agenda.

Gellir gweld Datganiad y cyfarfod y cytunwyd gan Weinidogion yma.