Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â’r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf adrodd fy mod wedi cadeirio trydydd cyfarfod Cyngor Gweinidogion Addysg y DU (UKEMC) ddydd Gwener 9 Rhagfyr yn Adeiladau Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Roedd Shirley-Anne Somerville ASA, Ysgrifennydd Cabinet Addysg a Sgiliau yn bresennol ar ran Llywodraeth yr Alban. Roedd y Gwir Anrhydeddus Gillian Keegan AS, Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg yn bresennol ar ran Llywodraeth y DU, ac roedd Mark Browne, Ysgrifennydd Parhaol yr Adran dros Addysg a Mark Lee, Cyfarwyddwr Addysg Drydyddol yn cynrychioli Gogledd Iwerddon drwy gyswllt fideo.

Trafododd y grŵp heriau a datblygiadau diweddar yn y meysydd canlynol: cynnydd mewn costau byw; cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol; a dysgu gydol oes. 

Rhoddodd Mike James, Prif Weithredwr Coleg Caerdydd a’r Fro gyflwyniad ar y cynnig eang o’r sector ôl-16.

Ymysg pethau eraill, tynnais sylw’r pwyllgor at y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud ar y Cynllun Prydau Ysgol am ddim i Bawb, y newidiadau sylweddol sy’n digwydd ym maes cymwysterau yng Nghymru, a fy ngweledigaeth bod Cymru yn dod yn genedl ail gyfle.

Cytunwyd y byddai Llywodraeth y DU yn cynnal cyfarfod nesaf Cyngor Gweinidogion Addysg y DU.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.