Neidio i'r prif gynnwy

Elin Jones AS, Y Gweinidog Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, pleidleisiodd y Senedd yn erbyn Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-2027.

Mae'r canlyniad hwn yn hynod siomedig. Byddai'r Gyllideb wedi darparu £433 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus allweddol a chyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru. Nid oedd yn cynnwys unrhyw ostyngiadau i wasanaethau presennol ac roedd yn canolbwyntio ar gyfeirio cyllid ychwanegol i'r meysydd sy'n wynebu pwysau sylweddol.

Roedd y mesurau a wrthodwyd heddiw yn cynnwys £145 miliwn i leihau rhestrau aros y GIG a chynyddu ei gapasiti, £55 miliwn i gyflymu'r broses o gyflwyno gofal plant wedi'i ariannu, £15 miliwn i gefnogi ymestyn prydau ysgol am ddim, £8 miliwn i barhau â'r cynllun peilot tocynnau bws am £1 i bobl ifanc, £20 miliwn ar gyfer tai cymdeithasol a £40 miliwn i fynd i'r afael â phwysau cynnal a chadw ar draws ystadau ysgolion.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal i gredu bod y rhain yn gynigion fforddiadwy, cyfrifol, y mae modd eu cyflawni.

Mae gwaith y Llywodraeth yn mynd rhagddo, a byddwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r ymrwymiadau yn ein maniffesto, a blaenoriaethau pobl Cymru. Mae'r Gyllideb Flynyddol ar gyfer 2026-2027, a gymeradwywyd gan y Senedd ym mis Ionawr, yn parhau i fod mewn grym ac yn parhau i ddarparu'r awdurdodiad cyfreithiol ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru. Bydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i weithredu a bydd cyllid yn parhau i lifo o dan y cynlluniau hynny sydd wedi'u cymeradwyo.

Byddwn yn parhau i fuddsoddi cyllid refeniw a chyfalaf ychwanegol i leihau amseroedd aros y GIG, cefnogi plant a theuluoedd, cynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a gwella canlyniadau addysgol. Rydym wedi ymrwymo o hyd i gyflawni’r blaenoriaethau hyn.

Fodd bynnag, bydd canlyniadau gwirioneddol yn deillio o'r penderfyniad heddiw. Byddwn yn asesu pa gamau lliniaru ychwanegol y bydd angen eu hystyried i sicrhau rheolaeth ariannol ddarbodus. O ystyried y pwysau ar gyllid cyhoeddus, rhaid inni osgoi creu rhwymedigaethau gwariant ychwanegol lle nad yw'r sefyllfa ariannu wedi'i chytuno eto.

Mae hyn yn golygu na fydd ein pecyn fforddiadwy a chyflawnadwy ar Anghenion Dysgu Ychwanegol nawr yn gallu symud ymlaen fel y bwriadwyd eleni.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i reoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol ac i gyflawni gwelliannau yn y gwasanaethau sy'n bwysicaf i bobl ledled Cymru. Byddwn nawr yn ystyried goblygiadau'r bleidlais heddiw a'r opsiynau sydd ar gael i ni o fewn yr adnoddau a'r awdurdodiadau sydd wedi'u cymeradwyo ar hyn o bryd gan y Senedd. Byddwn yn ailgyflwyno cyllideb atodol yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol, i unioni’r cyllid hwn, a byddwn yn parhau i reoli ein gwariant yn ofalus.

Mae'n briodol bod pobl Cymru yn disgwyl i'w cynrychiolwyr etholedig weithio gyda'i gilydd i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a gwneud y defnydd gorau posibl o arian cyhoeddus. Mae ein nod yn parhau i fod yn un syml: cyfeirio'r adnoddau sydd ar gael i'r blaenoriaethau pwysicaf, rheoli cyllid cyhoeddus mewn modd cyfrifol a chyflawni gwelliannau gwirioneddol ym mywydau pobl.