Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol â'r cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol, cynhaliwyd trydydd cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol ar 13 Rhagfyr 2023. 

Yn Weinidog arweiniol ar gyfer y Grŵp hwn, gofynnais i’r Gweinidog Newid Hinsawdd fynychu'r cyfarfod ar ran Llywodraeth Cymru gan fod eitemau’r agenda yn dod o dan ei phortffolio hi. 

Cadeiriwyd y cyfarfod gan y Gweinidog Tai, Paul McLennan ASA a oedd yn bresennol ar ran Llywodraeth yr Alban. Cynrychiolwyd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon gan Mark O'Donnell, y Dirprwy Ysgrifennydd Tai, Adfywio Trefol a Llywodraeth Leol; Paul Price, y Cyfarwyddwr Polisi Tai Cymdeithasol a David Polley, y Cyfarwyddwr Polisi Cyflenwad Tai. O Lywodraeth y DU, roedd Jacob Young, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Ffyniant Bro a Lee Rowley, y Gweinidog Gwladol dros Dai, Cynllunio a Diogelwch Adeiladau yn bresennol.

Croesawodd y grŵp gyflwyniad gan yr Athro Ken Gibb o Ganolfan Gydweithredol y DU ar gyfer Tystiolaeth Tai (CaCHE) ar ymchwil ynghylch effeithiau rheoleiddio ar y Sector Rhentu Preifat, y materion a'r heriau.

Wedi'r cyflwyniad, cafodd y grŵp gyfle i drafod yr heriau y mae pob llywodraeth yn eu hwynebu o ran cartrefi fforddiadwy a chyflenwad tai. Trafodwyd hefyd y cynnydd sydd wedi'i wneud o ran diogelwch adeiladau, gwaith cyweirio cladin, yswiriant, y marchnadoedd morgeisi a benthyca a choncrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC).

Gwnaeth y grŵp gydnabod y berthynas waith gadarnhaol sydd rhwng swyddogion ar draws y meysydd tai a diogelwch adeiladau a chytunwyd i swyddogion barhau i gydweithio fel hyn. 

Cadarnhawyd y bydd Llywodraeth y DU a swyddogion o Weithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cydweithio ar baratoadau ar gyfer cyfarfod nesaf y Grŵp Rhyngweinidogol, sydd i'w gynnal fis Mawrth / Ebrill 2024.

Gellir dod o hyd i ddatganiad y cyfarfod y cytunwyd arno gan Weinidogion yma