Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gŵyr yr Aelodau, yn dilyn arolygiad Estyn o wasanaethau addysg awdurdod lleol Merthyr Tudful ar gyfer plant a phobl ifanc ym mis Tachwedd 2012, penderfynodd y tîm arolygu fod gwasanaethau addysg yr awdurdod a'u gallu i wella yn anfoddhaol. O ganlyniad, cafodd yr awdurdod eu rhoi o dan fesurau arbennig.

Ym mis Mehefin 2013, ffurfiodd Gweinidogion Cymru Fwrdd Adfer Gweinidogol, a throsglwyddo swyddogaethau addysg yr awdurdod iddo, er mwyn rhoi cymorth a her i'r awdurdod a'i helpu i fynd i'r afael â'i ddiffygion.

Mae Estyn wedi bod yn monitro cynnydd yr awdurdod a chynhaliodd ymweliadau ym mis Chwefror a mis Hydref 2014. Ar bob achlysur, canfu'r Arolygwyr fod yr awdurdod wedi cymryd camau i weithredu'r argymhellion unigol ac er ei fod wedi gwneud cynnydd da, roedd angen gwneud rhagor o waith.

Cynhaliwyd yr ymweliad monitro diwethaf â gwasanaethau addysg yr awdurdod ar ddiwedd mis Tachwedd, a hoffwn dynnu eich sylw i ganlyniad yr ymweliad hwnnw.

Mae'n bleser gennyf eich hysbysu bod Estyn wedi penderfynu bod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn dilyn yr arolygiad ym mis Tachwedd 2012. Felly, mae'r Arolygiaeth o'r farn nad oes angen i'r awdurdod fod o dan fesurau arbennig mwyach ac nad oes angen unrhyw weithgareddau dilynol pellach.

Cyhoeddodd Estyn ei adroddiad ar ganlyniad yr ymweliad monitro ar ei wefan heddiw.

Bydd Gweinidogion Cymru'n cwrdd ag arweinydd a phrif weithredwr Merthyr Tudful i'w longyfarch ar yr hyn y mae'r awdurdod wedi'i gyflawni a phenderfyniad yr arolygwyr. Gan nad yw'r awdurdod o dan fesurau arbennig mwyach, byddaf yn diddymu'r Cyfarwyddyd a roddwyd i ffurfio Bwrdd Adfer Gweinidogol i ddarparu cymorth a her i'r awdurdod wrth iddo fynd ati i weithredu argymhellion Estyn, a byddaf hefyd yn trosglwyddo'r swyddogaethau perthnasol yn ôl i'r awdurdod.  

Mae'r penderfyniad hwn nid yn unig yn adlewyrchu'r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod, ond mae hefyd yn dangos bod y deilliannau ar gyfer pobl ifanc ym Merthyr Tudful yn gwella.  Rhaid i ni barhau i ganolbwyntio ar y deilliannau hyn a sicrhau bod safon y gwasanaethau addysg yn yr awdurdod yn parhau i wella.

Er bod y cyhoeddiad hwn gan Estyn heddiw yn galonogol iawn, bydd Gweinidogion Cymru yn pwyso ar dîm rheoli'r awdurdod i beidio â llaesu dwylo ac yn ei annog i sicrhau bod y gwelliant hwn yn parhau ac yn gynaliadwy ac i ystyried y ffordd o orau o gyflawni hyn.

Rhaid i'r awdurdod lleol sicrhau hefyd ei fod yn mynd i'r afael â'r meysydd pwysig hynny yr oedd Estyn o'r farn bod angen rhoi sylw penodol iddynt - cyfraddau presenoldeb yn y sector cynradd, a pharhau i ddatblygu eu gwaith mewn perthynas ag anghenion disgyblion ag AAA a grwpiau bregus.