Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Aelodau, byddwch yn ymwybodol, ar ôl i Estyn arolygu gwasanaethau addysg awdurdod lleol Sir Fynwy ar gyfer plant a phobl ifanc ym mis Tachwedd 2012, fod y tîm arolygu wedi dyfarnu bod gwasanaethau addysg yr awdurdod a’u capasiti i wella yn anfoddhaol. Rhoddwyd yr awdurdod, felly, o dan fesurau arbennig.

Ym mis Mehefin 2013, sefydlais Fwrdd Adfer Gweinidogol, er mwyn cynnig cymorth a her i’r awdurdod a’i helpu i ddelio â’i ddiffygion.

Mae Estyn wedi bod yn monitro cynnydd yr awdurdod ac ymwelodd â’r awdurdod ym mis Chwefror 2014 a mis Mawrth 2015. Ar y ddau achlysur, gwelodd yr Arolygwyr bod yr awdurdod lleol wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r argymhellion unigol, ond bod angen gwneud mwy i wella.

Ddiwedd Tachwedd 2015, cynhaliodd Estyn ei ymweliad monitro diweddaraf â gwasanaethau addysg yr awdurdod, ac rwyf am dynnu eich sylw at ganlyniad yr ymweliad hwnnw.

Rwy’n falch o gael dweud, yn dilyn yr ymweliad hwnnw, fod Estyn wedi dyfarnu bod yr awdurdod wedi gwneud cynnydd digonol o ran yr argymhellion a wnaed yn sgil arolygiad Tachwedd 2012. O ganlyniad, mae’r Arolygiaeth o’r farn nad oes angen i’r awdurdod fod o dan fesurau arbennig bellach, ac ni fydd angen mwy o wiriadau.

Mae adroddiad Estyn ar ganlyniad yr ymweliad monitro wedi’i gyhoeddi ar ei wefan.

Rwyf wedi cwrdd ag arweinydd a phrif weithredwr Sir Fynwy i’w longyfarch ar y cynnydd y mae’r awdurdod lleol wedi’i sicrhau a dyfarniad yr arolygwyr. Gan nad yw’r awdurdod o dan fesurau arbennig bellach, byddaf yn diddymu’r Cyfarwyddyd a gyhoeddwyd, a oedd yn sefydlu bwrdd adfer Gweinidogol i gynnig cymorth a her i’r awdurdod wrth fynd i’r afael ag argymhellion Estyn.

Er bod y dyfarniad hwn yn adlewyrchu’r cynnydd a wnaed gan yr awdurdod, sy’n bwysig ynddo’i hun, mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod yr argoelion ar gyfer pobl ifanc Sir Fynwy yn gwella. Mae’n rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y canlyniadau hyn a sicrhau bod safonau addysg yr awdurdod yn parhau i wella.

Er ein bod yn hapus â chyhoeddiad Estyn, rwyf wedi pwyso ar dîm arweinwyr yr awdurdod i beidio â llaesu dwylo, a sicrhau bod y gwelliant yn parhau ac yn gynaliadwy. Rwyf wedi pwyso arnynt i ystyried beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod hyn yn digwydd.

Yn sgil fy nhrafodaethau gyda’r awdurdod, dwi’n falch o allu nodi bod y mater hwn yn glir ym meddyliau’r tîm arweinwyr a’u bod wrthi’n ystyried sut y gellir parhau â’r cynnydd a wnaed. Mae fy swyddogion, mewn cydweithrediad â’r awdurdod, yn rhoi ystyriaeth i’r strwythurau cymorth mwyaf priodol a fyddai’n caniatáu i’r awdurdod gyflawni hyn.