Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 14 Chwefror, wrth baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd, gwnaethom lansio ymgynghoriad i gael safbwyntiau ar gynigion i ddileu rhai gofynion asesu cyfredol ar ysgolion o’r flwyddyn academaidd hon, sef:

  • Asesiadau diwedd y Cyfnod Sylfaen
  • Asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2
  • Cymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 a diwedd Cyfnod Allweddol 3

Gan y bydd y Cwricwlwm i Gymru yn dechrau cael ei gyflwyno i ysgolion a lleoliadau ym mis Medi, gwnaethom gynnig dileu’r gofynion hyn yn gynnar. Bydd hyn yn creu lle i ymarferwyr wrth iddynt baratoi eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu newydd ac yn creu rhagor o hyblygrwydd iddynt wrth gynllunio cyfnod pontio mwy esmwyth i ddysgwyr.

Mae ysgolion uwchradd a’r ysgolion cynradd sy’n bwydo iddynt yn cymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 a diwedd Cyfnod Allweddol 3 gyda’i gilydd. Gan ein bod yn cynnig cael gwared ar asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2, heb y newidiadau arfaethedig, yn ymarferol byddai rhaid i ysgolion uwchradd lunio trefniadau dros dro i gymedroli asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 gydag ysgolion uwchradd eraill nes bod y gwaith o gyflwyno’r cwricwlwm newydd wedi cyrraedd blwyddyn 9. Felly, roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r cynigion er mwyn osgoi baich diangen ar ysgolion.

Bydd y gofynion sy’n ymwneud ag asesu parhaus ac asesiadau personol yn parhau mewn grym.

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Ebrill gyda’r rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno neu’n cytuno’n gryf â’r cynigion.

Ni fyddai’r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad yn effeithio ar y trefniadau ar gyfer asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 gan na fydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno i flwyddyn 9 tan 2024-25. Er hynny, fe wnaeth yr ymgynghoriad dynnu sylw at faterion yng Nghyfnod Allweddol 3 sy’n benodol i Ysgolion Arbennig.

Gan fod ymarferwyr yn yr ysgolion hyn yn addysgu yn unol ag anghenion dysgwyr yn hytrach na’u hoedran, mae dysgwyr o wahanol grwpiau blwyddyn yn cael eu haddysgu gyda’i gilydd. Mae hyn yn achosi heriau yn y blynyddoedd interim gan fod y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno fesul blwyddyn, gan gyrraedd blwyddyn 9 ym mis Medi 2024. Byddai angen i ymarferwyr asesu yn yr un dosbarth rai dysgwyr gan ddefnyddio lefelau presennol y Cwricwlwm Cenedlaethol a rhai eraill yn unol â threfniadau asesu y Cwricwlwm i Gymru. Cawsom hefyd ar ddeall yn ystod y broses ymgynghori bod y rhan fwyaf o ddysgwyr yn ein hysgolion arbennig yn cael eu tynnu o asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 bob blwyddyn gan nad ydynt yn hygyrch iddynt. O ganlyniad, rwy’n bwriadu dileu asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 mewn ysgolion arbennig o’r flwyddyn academaidd hon. Nod hyn yw creu mwy o hyblygrwydd i ymarferwyr er mwyn gwneud trefniadau pontio priodol i’w hysgolion a dewis y dulliau asesu mwyaf priodol i gefnogi eu dysgwyr.

Bydd dysgwyr blwyddyn 9 ym mhob ysgol arall yn parhau i ymgymryd ag asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 3 sy’n cefnogi’r Cwricwlwm Cenedlaethol presennol tan i’r Cwricwlwm i Gymru gael ei gyflwyno i flwyddyn 9 ym mis Medi 2024. Fodd bynnag, o ran y dysgu a’r addysgu o ddydd i ddydd a’r gwaith o gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd, gall ymarferwyr fabwysiadu’r dull asesu a amlinellir yn Cefnogi Cynnydd Dysgwyr: Canllawiau Asesu pe byddent am wneud hynny.

Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys cynnig i ddiwygio Rheoliadau Gwybodaeth Ysgolion (Cymru) 2011 i ddileu’r gofyniad ar awdurdodau lleol i ddosbarthu copïau papur o’u prosbectws blynyddol i rieni a disgyblion yn eu blwyddyn drosglwyddo mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol. Bydd y newid yn dileu’r baich gweinyddol ac ariannol diangen ar awdurdodau lleol, sef adnodd ac arian y byddai’n well eu defnyddio i godi safonau ysgolion. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi eu prosbectws blynyddol ar eu gwefan a sicrhau bod copïau ar gael ar gais. Bydd y prosbectws ar gael am ddim i unrhyw un sydd am ei ddarllen. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr yn cytuno â’r cynnig hwn.

Y mis hwn, byddaf yn gosod rheoliadau gerbron y Senedd a fydd yn dechrau’r broses ddeddfwriaethol i ddileu’r gofynion y flwyddyn academaidd hon. Bydd crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hefyd yn cael ei gyhoeddi y mis hwn.