Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi'r crynodeb o'r ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar reoliadau drafft i fandadu'r defnydd o Asesiadau'r Effaith ar Iechyd.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 29 Rhagfyr 2023 a 29 Mawrth 2024, ac rwyf yn ddiolchgar iawn am yr ymatebion a gafwyd gan amrywiaeth o bartïon â buddiant ac aelodau o'r cyhoedd. Cafwyd 63 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac yn dilyn hynny gwnaed gwaith ymgysylltu pellach â swyddogion a chynhaliwyd gweithdai â chyrff cyhoeddus y mae'r cynigion yn effeithio arnynt. 

O ganlyniad i'r ymatebion a ddaeth i law o'r ymgynghoriad a'r ymgysylltiad dilynol sydd hefyd wedi digwydd, disgwylir y bydd nifer o newidiadau allweddol yn cael eu gwneud i ddrafftio'r rheoliadau arfaethedig y mae fy swyddogion yn gweithio ar hyn o bryd ar eu datblygu. 

Yn ddiweddarach eleni rwyf yn disgwyl gosod rheoliadau gerbron y Senedd i fandadu'r defnydd o Asesiadau'r Effaith ar Iechyd mewn rhai amgylchiadau. Gwneir hyn gyda golwg ar roi grym i'r cynigion tua diwedd y flwyddyn nesaf i ganiatáu cyfnod o baratoi. Disgwylir i'r cyfnod hwn gynnwys cyhoeddi canllawiau a chyflwyno rhaglen hyfforddi i gynorthwyo'r cyrff cyhoeddus yr effeithir arnynt.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.