Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rydym yn lansio ymgynghoriad a gynhelir yn sgil cwblhau ein hadolygiad cynhwysfawr o ostyngiadau'r dreth gyngor, y personau sy'n cael eu diystyru, ac eithriadau. Mae'r adolygiad hwn yn rhan o gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i wneud y dreth gyngor yn decach. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gwahodd sylwadau ar newidiadau arfaethedig i gategorïau, ac mae'n cadarnhau'r llwybr ymlaen ar gyfer newidiadau y gwnaethom ymchwilio iddynt yn 2023

Am dros dri degawd, mae'r gwahanol ostyngiadau treth gyngor, personau a ddiystyrir, ac eithriadau wedi darparu cymorth hanfodol i unigolion a theuluoedd, yn enwedig y rheini sy'n wynebu heriau ariannol neu sefyllfaoedd lle mae amgylchiadau unigryw. Mae rhai categorïau hefyd yn bodoli i sicrhau y gellir gweithredu system y dreth gyngor yn effeithlon. Mae ein polisïau wedi'u hanelu at sicrhau tegwch a chynhwysiant o fewn y system honno.

Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o'r trefniadau hyn heb newid ers cyflwyno'r system ym 1993. Ar ôl i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) 2024 gael ei chymeradwyo gan y Senedd y llynedd, mae cyfle nawr i foderneiddio'r mesurau hyn mewn modd sy'n golygu eu bod yn adlewyrchu anghenion esblygol cymdeithas heddiw yn fwy cywir. Trwy'r adolygiad hwn, rydym yn bwriadu mireinio a diweddaru'r categorïau, gan sicrhau bod y dreth gyngor yn decach ac yn fwy ymatebol i anghenion ein cymunedau. Mae ein hamcanion wrth gwblhau'r adolygiad hwn yn glir: gwella hygyrchedd, cefnogi ac annog unigolion cymwys i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddynt, dileu stigma sy'n gysylltiedig â mathau penodol o gymorth, a thargedu cymorth yn effeithiol er mwyn cyrraedd y rhai sydd â'r angen mwyaf. Hefyd, roedd angen diweddaru, moderneiddio, a chydgrynhoi nifer o feini prawf technegol, gan wneud y gyfraith yn y maes cymhleth hwn yn fwy hygyrch. 

Hoffwn gydnabod y rhan a chwaraewyd yn y gwaith hwn gan y gweithgor ymarferwyr awdurdodau lleol, rhanddeiliaid eraill, a phartneriaid trydydd sector, gan ddiolch iddynt am eu cyfraniadau amhrisiadwy i'r adolygiad.

Mae'r ymgynghoriad yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru, ac mae'n gofyn i'r holl randdeiliaid ymateb iddynt. Bydd ar agor am 12 wythnos, tan 15 Awst, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried y cyfraniadau sy'n dod i law. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gam pwysig ymlaen yn ein hymrwymiad i foderneiddio system y dreth gyngor, gan sicrhau ei bod yn darparu tegwch a chymorth yn y sefyllfaoedd lle mae'r angen fwyaf.