Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais ym mis Rhagfyr fy mod wedi rhoi’r gorau i geisio’r brechlyn BCG Moch Daear ar gyfer brechu moch daear yng Nghymru yn sgil prinder byd eang o’r brechlyn. Roeddem bedair blynedd i mewn i brosiect pum mlynedd o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys a dwy flynedd i mewn i’r grant brechu moch daear ar draws Cymru.  

Cafodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ei chomisiynu i fodelu effeithiau posibl gwahanol drefniadau ar gyfer brechu moch daear ar TB gwartheg mewn moch daear a gwartheg, gan ddefnyddio terfynau a oedd yn benodol i’r Ardal Triniaeth Ddwys. Ystyriwyd lleoliadau ffermydd, maint buchesi a grwpiau cymdeithasol moch daear.

Trwy’r gwaith modelu hwn nodwyd effaith debygol diffyg brechlyn BCG ar gyfer moch daear yn 2016 ar y prosiect brechu moch daear o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Mae’r gwaith yma bellach wedi’i gwblhau ac mae wedi’i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Er nad yw’r flwyddyn olaf wedi’i chwblhau mae’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion wedi dod i’r casgliad y byddai pedair blynedd o frechu moch daear yn lleihau amlder TB mewn moch daear o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys. Dangosodd y gwaith modelu nad yw bwlch o flwyddyn ar ôl y bedwaredd flwyddyn ac ailddechrau brechu yn y chweched blwyddyn yn wahanol i frechu am 5 mlynedd yn olynol.

Hoffwn ddiolch i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am gwblhau’r gwaith modelu a hoffwn ddiolch i’r tirfeddiannwyr o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys am eu cydweithrediad parhaus.

Byddwn yn parhau i ymgynghori â’r diwydiant amaeth, cymunedau gwledig ehangach, y proffesiwn milfeddygol, Byrddau Dileu TB a Grŵp Cynghori’r Diwydiant o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys.

Byddwn hefyd yn parhau i werthuso effaith pob ymyrraeth o fewn yr Ardal Triniaeth Ddwys, gan gynnwys brechu, rheoli a chadw golwg ar wartheg a’r mesurau bioddiogelwch manylach.

Yn unol â’r arfer caiff adroddiad blynyddol yr Ardal Triniaeth Ddwys/Cymharu Gwartheg ei gyhoeddi yn yr haf.