Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cyhoeddi canlyniadau peilot yr Arolwg o'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol. Fe’i cynhaliwyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2023. Roedd yn ymchwilio i iechyd a llesiant, tâl ac amodau, anghenion hyfforddi, cymhelliant unigolion i weithio ym maes gofal cymdeithasol a'r hyn y mae ein gweithlu yn ei werthfawrogi. 

Roedd hwn yn gyfle unigryw i aelodau'r gweithlu gofal cymdeithasol roi eu barn ar amrywiaeth o faterion sy'n effeithio arnynt, i ddylanwadu ar y ffordd yr ydym yn mynd i'r afael â'r hyn sydd bwysicaf i'n gweithlu. Cwblhawyd yr arolwg gan 6.5% o'r gweithlu. Bydd yn bwysig inni adeiladu ar hyn i gryfhau llais y sector. Rwy'n awyddus i sicrhau ein bod yn ysgogi dulliau y gallwn eu defnyddio i ehangu cynhwysiant. Mae lleisiau aelodau’r gweithlu yn bwysig – nhw yw'r arbenigwyr gyda'u profiad o weithio mewn gofal cymdeithasol, ac mae angen inni ennyn eu diddordeb er mwyn cyflawni gwelliannau ystyrlon.

Mae’r canlyniadau yn amlygu ymrwymiad eithriadol ein gweithlu gofal cymdeithasol, a'i rôl anhygoel i ddarparu gwasanaethau yng Nghymru. Fodd bynnag, er mwyn sicrhau bod aelodau ein gweithlu yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn cael y cymorth gorau posibl, mae llawer mwy i'w wneud eto.

Rwy’n llwyr ymroddedig i wella tâl, telerau ac amodau a mynd i'r afael â materion recriwtio a chadw staff yn y sector – a hynny yn uniongyrchol, a thrwy ein nawdd i Ofal Cymdeithasol Cymru. Rydym yn cymryd camau i broffesiynoli'r sector a chreu gwell cyfleoedd ar gyfer dilyniant gyrfa.

Gwnaethom fuddsoddi £70m arall yn 2023-34 i sicrhau bod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn parhau i dderbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf fel tâl. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ar ddatblygu Fframwaith Tâl a Dilyniant drafft ar gyfer y sector gofal cymdeithasol. Darparu tâl yn ogystal â chyfleoedd ar gyfer datblygiad a dilyniant gyrfa sy'n fwy cyson yw’r nod. Bwriedir mynd ati i gyflawni hyn drwy nodi bandiau eang o rolau o fewn gofal cymdeithasol a fydd yn gydnaws â sgiliau, profiad dysgu a lefelau tâl aelodau o staff.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith drafft yn ystod yr haf, fel rhan o ymgynghoriad ehangach Llywodraeth Cymru ar y Rhaglen Ailgydbwyso Gofal a Chymorth, a bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi maes o law.

Mae Strategaeth y Gweithlu, a gyhoeddwyd yn 2020, yn nodi ein gweledigaeth a'n camau gweithredu ar gyfer y tymor hir mewn perthynas â'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.  Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu Cynllun Cyflawni Strategaeth y Gweithlu, a fydd yn tynnu ar adborth yr arolwg o'r gweithlu. Bydd yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma a bydd yr ymdrechion i ymgysylltu â'r sector  yn gwbl ganolog i’w ddatblygu. Bydd yn cynnwys manylion y camau gweithredu a fydd yn helpu i symud y gweithlu gofal cymdeithasol yn ei flaen dros y tair blynedd nesaf.

Gan barhau i gydweithio â'r sector, rwy'n hyderus y gwnawn ni oresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd ac ymateb i'r materion sydd wedi dod i'r amlwg yn yr arolwg. Byddwn yn parhau i gyflawni newidiadau cadarnhaol sy'n gwneud gwahaniaeth i'r gweithlu gofal cymdeithasol, ac i'r bobl sy’n ddibynnol ar gefnogaeth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.