Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 13 Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad yn cynnig y dylid trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf; gan newid ffiniau'r byrddau iechyd yn unol â hynny.

Fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad, diben y newid arfaethedig yw sicrhau nad yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr o dan unrhyw anfantais o orfod gweithio gyda phartneriaid strategol gwahanol ar draws ddau batrwm strategol; cryfhau trefniadau partneriaethau rhanbarthol; a hwyluso'r gwaith o arwain a gwneud penderfyniadau.

Caeodd yr ymgynghoriad ar 7 Mawrth, ac mae crynodeb o'r ymatebion ar gael yma:

https://beta.llyw.cymru/newid-arfaethedig-i-ffin-y-byrddau-iechyd-ym-mhen-y-bont-ar-ogwr
Mae'r dadansoddiad o'r ymgynghoriad bellach wedi ei gwblhau, a heddiw rwyf  yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion. Dyma brif gasgliadau’r dadansoddiad:

• cymharol debyg oedd nifer yr ymatebion a oedd yn cytuno a’r nifer a oedd yn anghytuno y byddai newid ffiniau'r byrddau iechyd yn cryfhau'r trefniadau ar gyfer gweithio mewn partneriaeth;

• roedd yr ymatebwyr yr oedd eu sylwadau'n cefnogi'r cynnig  o'r farn y byddai'r trefniadau partneriaeth yn cael eu cryfhau gan y newid yn y ffiniau, ac roeddent yn tueddu i gytuno bod y trefniadau presennol yn peri anhawster i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

• yn achos y rheini  a oedd wedi dod i'r casgliad na fyddai'r newid yn y ffiniau’n cryfhau’r trefniadau partneriaeth,  mynegwyd pryderon ynghylch yr effeithiau posibl ar wasanaethau iechyd, a phroblemau posibl o ran teithio i leoliadau gwasanaethau gwahanol, costau, a newidiadau i ofal unigol;

• roedd y materion a godwyd mewn digwyddiadau i randdeiliaid yn adlewyrchu'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar-lein;

• roedd yr ymgynghoriad wedi tynnu sylw at y ffaith y byddai angen cysoni ffiniau byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau diogelu, a threfniadau mabwysiadu cydweithredol rhanbarthol, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;  
• roedd y prif sefydliadau a fyddai'n gweithredu'r newid yn y ffiniau yn bendant eu barn mai Ebrill 2019 fyddai orau yn hytrach nag Ebrill 2020, sef y dyddiad arall a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad;  

• prin oedd yr ymatebwyr a gododd unrhyw faterion yn ymwneud â'r Gymraeg na'r asesiadau o effaith ar gydraddoldeb;

Rwyf  wedi nodi'n ofalus y pryderon a godwyd gan unigolion a sefydliadau ynghylch yr effeithiau posibl ar y ddarpariaeth o wasanaethau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac ardal bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn ehangach.

Rwy’n  cydnabod bod unrhyw newidiadau arfaethedig i strwythurau iechyd yn codi pryderon ynghylch yr effeithiau posibl ar ofal cleifion unigol a'r ddarpariaeth o wasanaethau'n gyffredinol, ac rydym yn ddiolchgar i'r byrddau iechyd am roi sicrwydd nad ydynt yn bwriadu cyflwyno newidiadau i'w gwasanaethau o ganlyniad i'r newid yn y ffiniau.

Pe bai angen newid gwasanaethau yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol er mwyn gwella ansawdd neu gynaliadwyedd, mae'r byrddau iechyd wedi cadarnhau y byddai'r cynigion hynny yn destun ymgysylltiad cyhoeddus ar wahân a, lle bo'n briodol, ymgynghori. Mae'r ddau ffwrdd iechyd hefyd wedi pwysleisio eu bod yn parhau'n ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy o ansawdd da, a hynny mor lleol â phosibl, ar gyfer eu holl gleifion, ac ni fyddai unrhyw newid yn y ffiniau yn effeithio ar yr ymrwymiad hwnnw.

Rwyf wedi ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus, ac wedi trafod, gyda'r byrddau iechyd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y newidiadau y byddai eu hangen i roi'r cynigion ar waith. Rwy’n bellach yn argyhoeddiedig y dylid newid ffiniau'r byrddau iechyd yn unol â'r cynnig. Rydym yn credu y byddai gweithredu yn unol ag amserlen effeithlon a chyflym yn osgoi sefyllfa a allai greu ansicrwydd i staff a chleifion dros gyfnod o amser, neu ansicrwydd yn y gwaith o ddatblygu trefniadau partneriaeth allweddol. Felly,  rwy’n  bwriadu y bydd y newid yn y ffiniau yn dod yn weithredol o 1 Ebrill 2019. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r byrddau iechyd a phartneriaid eraill wrth i'r paratoadau ar gyfer y newid yn y ffiniau fynd rhagddynt, a bydd y ddeddfwriaeth berthnasol yn cael ei chyflwyno maes o law.      

Rwy’n ddiolchgar i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn.