Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn ymchwiliad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac argymhellion dilynol, rhoddais fy ngair y byddwn yn rhoi dull arloesol ar waith i nodi a gwerthuso technolegau newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. 
Ar ôl ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid ar y mater, rydym bellach wedi penderfynu sefydlu canolfan technolegau iechyd annibynnol i Gymru. Bydd y ganolfan hon yn darparu ffordd strategol, genedlaethol o nodi a gwerthuso technolegau newydd a chynorthwyo lleoliadau iechyd a gofal i'w mabwysiadu.
Yn dilyn galwad agored, mae'n bleser gen i gyhoeddi mai Ymddiriedolaeth GIG Felindre fydd yn cynnal y ganolfan. Mae gan Felindre brofiad cryf ac arbenigedd yn y maes hwn trwy ei pherthynas bresennol â gwasanaethau cenedlaethol fel Gwasanaeth Gwaed Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. 
Mae'r ganolfan yn seiliedig ar berthynas gref rhwng sefydliadau academaidd ac iechyd a bydd yn darparu amrywiaeth o arbenigedd fel sganio'r gorwel, economeg iechyd, gwerthuso technolegau ac yn wir, rhoi'r gorau i ddefnyddio rhai technolegau. Wrth weithio gyda chyrff gwerthuso a phrofi megis CEDAR a'r Labordy Profi Deunyddiau Llawfeddygol, byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y sgiliau sydd eisoes yng Nghymru. Bydd y ganolfan hefyd yn gweithio'n agos gyda gwasanaeth caffael ein GIG i sicrhau bod technolegau sy'n cael eu cymeradwyo yn hygyrch i fyrddau iechyd. 
Bydd y ganolfan yn dod i fodolaeth ar ddechrau blwyddyn ariannol 2016-17 a bydd yn gweithredu’n llawn erbyn cyfnod yr hydref yn y flwyddyn galendr bresennol.