Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 20 Medi gwnaethom gyhoeddi miliwn o bunnoedd o gyllid cychwynnol i gefnogi cymunedau i ddatblygu Canolfannau Clyd neu ehangu a gwella'r ddarpariaeth bresennol o ran Canolfannau Clyd. Gwyddom y bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cadw eu cartrefi ar dymheredd iach y gaeaf hwn, yn enwedig y bobl hynny sydd gartref drwy'r dydd, yr henoed a'r bregus. Mae Canolfannau Clyd yn cynnig amgylchedd diogel, hygyrch a chynnes yn ystod y dydd i helpu'r rhai sy'n wynebu tlodi tanwydd eithafol y gaeaf hwn.

Ar y 12fed o Hydref, fe wnes gadarnhau y byddai ein £1 miliwn o gyllid Canolfannau Clyd yn cael ei ddosbarthu trwy awdurdodau lleol a fyddai'n gweithio gyda phartneriaid lleol wrth ddatblygu a darparu Canolfannau Clyd. Roedd hyn yn cydnabod mai yn y cymunedau lleol y mae llawer o'r arbenigedd ar ble y dylid gosod Canolfannau Clyd, a'r hyn y dylid ei ddarparu ynddynt, ac mai awdurdodau lleol, gan weithio mewn partneriaeth â'r sector cyhoeddus, y sector gwirfoddol a phartneriaid cymunedol sydd yn y sefyllfa orau i fesur a deall anghenion lleol, y ddarpariaeth bresennol ac i lunio a darparu atebion lleol.

Mae ein buddsoddiad mewn Canolfannau Clyd yn rhan o becyn cymorth ehangach gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, sy'n cynnwys ein Cynllun Cymorth Tanwydd, Talebau Tanwydd, Cronfa Cymorth Dewisol a thaliadau Costau Byw. Byddwn yn buddsoddi cyfanswm o dros £1.6 biliwn eleni i gefnogi pobl drwy'r argyfwng costau byw hwn drwy ddarparu cymorth wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf a thrwy raglenni a chynlluniau sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.

Heddiw, rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Canolfannau Cynnes ledled Cymru.

Mae llawer o sefydliadau gan gynnwys awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, grwpiau ffydd, clybiau chwaraeon, chanolfannau cymunedol, chymdeithasau tai a undebau llafur  yn ymgysylltu â Chanolfannau Clyd neu’n sefydlu rhai yn eu cymunedau lleol.  Mae ein cyllid wedi helpu i adeiladu ar yr ymdrechion presennol hyn i wella ac ehangu’r rhwydwaith Canolfannau Clyd ledled Cymru. Rydw i hefyd yn ddiolchgar i bartneriaid fel y Loteri Genedlaethol sydd hefyd yn cefnogi Canolfannau Clyd ledled Cymru.

Mae dros 300 o Ganolfannau Clyd / Croeso Cynnes / Mannau Cynnes ar draws Cymru a disgwylir i’r nifer hwn dyfu wrth i lawer o awdurdodau lleol redeg cynlluniau grant â chefnogaeth cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer grwpiau cymunedol a gwirfoddol sy’n dymuno datblygu Canolfannau Clyd.

Cwrddais ag arweinwyr awdurdodau lleol yn gynharach yn y mis ac roeddwn yn falch o glywed am y cynnydd a wnaed o ran Canolfannau Clyd ledled Cymru. Mae nifer o awdurdodau lleol yn cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefannau ynghylch lleoliad y Canolfannau Clyd yn eu cymuned. Mae gwefan Croeso Cynnes a ddefnyddir gan awdurdodau lleol gogledd Cymru yn rhestru dros 120 o Ganolfannau Clyd ar draws gogledd Cymru.

Mae Canolfannau Clyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth yn dibynnu ar eu lleoliad a'u cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o fan cynnes syml gyda lluniaeth, i fwyd mwy sylweddol, gweithgareddau, mynediad am ddim at gyfrifiaduron a wi-fi, a phwyntiau gwefru ar gyfer ffonau a llechi.  Mae nifer yn cynnig cyfle i gwrdd â chynghorwyr ariannol a lles, gan gefnogi pobl i gael y buddion a'r gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddynt. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyngor costau byw, cyfeirio pobl at gymorth ychwanegol a darparu cefnogaeth ymarferol go iawn trwy weithgareddau fel helpu pobl i lenwi ffurflenni i wneud cais am fudd-daliadau.

Byddaf yn ymweld â Chanolfannau Clyd yng Nghaerffili a Chaerdydd ar 20 Rhagfyr i weld â’m llygaid fy hun y gwaith gwerthfawr y mae'r canolfannau hyn yn ei wneud yn ein cymuned ac i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw hwn. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi ein hymdrechion ar y cyd i helpu'r rhai sydd wedi'u taro'n waethaf gan yr argyfwng costau byw i gadw'n gynnes y gaeaf hwn.