Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Rwy’n siwr bod darllen yr adroddiad diweddar gan Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi peri cymaint o bryder i chi ag i mi. Roedd Care and Compassion yn disgrifio 10 achos yn y GIG yn Lloegr lle na wnaeth y bobl hŷn dan sylw dderbyn y lefelau gofal mwyaf sylfaenol. Rwy’n poeni ynghylch y neges y mae hyn yn ei roi i’r cyhoedd am yr hyn y dylent ei ddisgwyl oddi wrth GIG Cymru.

Hoffwn bwysleisio bod ansawdd, diogelwch cleifion a sicrhau bod pob unigolyn yn cael eu trin ag urddas a pharch yn ganolog i bopeth a wnawn yn GIG Cymru. Nid oes unrhyw le i laesu dwylo wrth ofalu am iechyd a lles unigolion.

Mae’n wirionedd anffodus ein bod yn gweld arferion da a drwg ym mhob rhan o gymdeithas. Lle gwelir bod lefelau gofal yn syrthio’n brin, rwy’n disgwyl i sefydliadau ymchwilio’n drwyadl i’r materion a nodir fel methiannau a mynd i’r afael â hwy. Mae gyda ni nifer o strwythurau a threfniadau cadarn i godi safonau ac i gael gwared ag unrhyw fethiannau gofal yn GIG Cymru.

Mae’n rhaid i holl sefydliadau GIG Cymru gydymffurfio â Gwneud yn Dda, Gwneud yn Well – Safonau Gofal Iechyd Cymru. Ffocws y safonau yw “gwneud y peth iawn, ar yr adeg iawn, i'r claf iawn, yn y lle iawn gyda’r staff iawn".

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn arolygu’n drwyadl ac yn darparu sicrwydd ansawdd allanol ynghylch i ba raddau mae sefydliadau yn bodloni’r safonau hyn, gan gynnwys cynnal ymchwiliadau i achosion difrifol a chynnal hap-archwiliadau dirybudd o lendid.

Rydym wedi cadw Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru ac mae eu rhaglen o ymweld, arolygu a monitro gwasanaethau wedi parhau i warchod buddiannau’r cyhoedd. Roedd yn bleser gennyf nodi bod adolygiad 2010 o amgylchedd cleifion mewn ysbytai, a gynhelir bob blwyddyn gan y Cynghorau Iechyd Cymuned, yn dangos gwelliant cyffredinol a gynhaliwyd dros y 2-3 mlynedd diwethaf. Mae’n tynnu sylw hefyd at y meysydd y mae angen rhoi sylw iddynt o hyd, ac rwy’n disgwyl i holl sefydliadau’r GIG ddefnyddio’r adborth gwerthfawr hwn yn eu hymgyrch i wella gwasanaethau.

Yn ogystal â’r trefniadau hyn i sicrhau ansawdd, rwyf wedi cyflwyno amrywiaeth eang o fentrau i helpu sefydliadau i sicrhau gofal o ansawdd uchel cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn:

  • Menter Rhyddid i Arwain, Rhyddid i Ofalu sy’n cynyddu pwerau prif nyrsys wardiau ysbyty i reoli eu wardiau, sy’n effeithio ar bob agwedd ar brofiad y claf, megis amseroedd bwyta a glendid. Erbyn hyn mae archwiliadau Hanfodion Gofal yn cael eu cynnal ar bob ward yng Nghymru.
  • Mae 1000 o Fywydau a Mwy yn gwneud gwelliannau sylweddol o ran diogelu cleifion a lleihau niwed ledled Cymru. Mae rhai wardiau ysbyty wedi lleihau ac, mewn rhai achosion, wedi cael gwared yn llwyr â briwiau pwyso, sy’n gryn gyflawniad.
  • Mae rhaglen Transforming Care at the Bedside yn gweld cryn gynnydd yn yr amser y mae staff gofal iechyd yn ei dreulio ar ofal cleifion uniongyrchol, a hefyd yn y gostyngiadau mewn achosion niweidiol.

Yn ogystal â rhaglenni sy’n canolbwyntio ar brosesau ac ymddygiad, rwyf hefyd wedi edrych ar sut rydym yn recriwtio ac yn hyfforddi staff a sut rydym yn sicrhau bod yr holl staff yn deall eu cyfrifoldebau i gleifion:

  • Yn y DU, ac yma’n unig, rhaid i bob ymgeisydd am raglenni addysg nyrsio a bydwreigiaeth yng Nghymru gyflwyno Geirda Cymeriad, sy’n rhoi tystiolaeth am agweddau’r unigolyn i ofalu a’i allu i gyfathrebu â phobl.
  • Ym mis Ionawr, cyflwynais God Ymddygiad ar gyfer Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd, sy’n darparu cyfran fawr o ofal cleifion ymarferol. Mae hwn yn nodi sut dylent ymddwyn a gwneud y peth iawn bob amser.

Yn ogystal â’r rhaglenni sy’n gwella gwasanaethau i bob claf, rwyf hefyd wedi canolbwyntio datblygiadau a chyllid ar gyfer rhannau penodol o’r boblogaeth, megis Gweledigaeth Demensia Genedlaethol Cymru, a lansiwyd ar 16 Chwefror 2011.

Yn y 3 blynedd ddiwethaf, mae cryn waith wedi’i ysgogi gan raglen Urddas mewn Gofal, a sefydlwyd i ystyried materion sy’n ymwneud ag urddas a pharch i bobl hŷn mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r rhaglen waith helaeth hon wedi golygu ymgysylltu â staff ar bob lefel, defnyddwyr a gofalwyr, i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag urddas a pharch wrth ofalu am bobl hŷn. Gwelwyd cyflwyno rhaglenni hyfforddi staff; digwyddiadau ‘gwrando’ gyda staff y rheng flaen, defnyddwyr a gofalwyr; cymorth i brosiectau penodol i wella gofal; arolygiadau o’r GIG gan AGIC; a datblygu cwestiynau penodol ar urddas a pharch yn y Pecyn Archwilio Hanfodion Gofal (a ddefnyddir ar bob ward yng Nghymru erbyn hyn).

Mae gwaith ar y gweill i ystyried creu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Urddas mewn Gofal. Ymhlith y cynigion mae nodi unigolion sydd wedi ymrwymo i gymryd camau, pa mor fach bynnag, i greu system ofal sy’n dangos tosturi a pharch at y rhai sy’n defnyddio ei gwasanaethau.

Rydym hefyd wedi bod yn llwyddiannus wrth ailstrwythuro llety ysbyty dros nos i ddarparu ystafelloedd sengl a/neu ardaloedd un rhyw mewn rhannau o wardiau. Nid yw symud i lety sengl yn fêl i gyd. Mae rhai cleifion wedi mynegi dymuniad i fod mewn llety a rennir, gan fod hyn yn rhoi cwmni iddynt ac ymdeimlad o ddiogelwch gan fod pobl eraill o’u cwmpas.

Hyd yn hyn, y preifatrwydd a’r urddas mwy i gleifion, a’r manteision yn sgil lleihau Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, fu’r ffactorau a benderfynodd pryd i ailddylunio ysbytai aciwt. Efallai mai nawr yw’r amser i gynnal gwerthusiad o brofiad y claf i ymchwilio i’r materion hyn ymhellach.

Pan aiff pethau o le, mae angen i bobl wybod yr ymchwilir yn briodol i’w pryderon ac y gwnaiff y sefydliad bopeth o fewn ei allu i ddelio â hwy mewn ffordd onest a theg. Mae’n bwysig hefyd bod pobl yn teimlo bod y sefydliad wir wedi dysgu o unrhyw gamgymeriadau a wnaed.

Yr wythnos hon, rwyf wedi mynd â Rheoliadau’r GIG (Pryderon, Cwynion a Threfniadau Unioni Cam) (Cymru) 2011 drwy’r Cynulliad a dônt i rym ar 1 Ebrill. Bydd y trefniadau newydd hyn yn gwella’r ffordd y mae’r GIG yng Nghymru yn delio â phryderon.

Bydd y trefniadau newydd yn darparu un broses integredig ar gyfer delio â phryderon a godwyd am driniaeth a gofal, boed drwy gŵyn, hawliad neu achos clinigol. Byddant yn rhoi lle canolog i’r person sy’n codi’r pryder, yn darparu ymchwiliad cymesur ac ymateb trwyadl. Mae’r Rheoliadau newydd hefyd yn cyflwyno’r cysyniad o unioni cam, a fydd yn caniatáu i hawliadau gwerth is am esgeulustod clinigol gael eu setlo heb weithredu cyfreithiol.

Er gwaethaf yr holl bethau hyn sydd wedi’u sefydlu, mae yna waith eto i’w wneud. Mae’n rhaid inni ddatblygu agwedd o wrthod goddef gofal gwael. Nid yw byth yn dderbyniol i gleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau gael unrhyw beth yn llai na’r lefel gwasanaeth gorau posibl – a dylai bob amser ddangos parch a thosturi a sicrhau diogelwch.