Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis diwethaf, cyhoeddais ein cynllun brechu cenedlaethol yn erbyn COVID-19, sy’n nodi tair carreg filltir allweddol:

  • Erbyn canol mis Chwefror – bydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig brechlyn.
  • Erbyn y gwanwyn – bydd brechlyn wedi'i gynnig i holl grwpiau blaenoriaeth eraill cam un. Mae hynny’n cynnwys pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes.
  • Erbyn yr hydref – bydd brechlyn wedi'i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). 

Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd ein carreg filltir gyntaf, sef bod wedi cynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror yn unol â’r cynllun. Mae’r GIG wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â phawb yn y pedwar grŵp cyntaf yn cynnig apwyntiad brechu iddynt. 

Hyd yma, mae GIG Cymru wedi brechu mwy na:

  • 48,000 o breswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn a’u gofalwyr;
  • 161,000 o bobl dros 80 oed;
  • 118,000 o weithwyr rheng flaen y GIG; a
  • 260,000 o bobl dros 70 oed.

Mae hyn yn gamp wirioneddol ac yn foment bwysig inni ystyried llwyddiant ein Rhaglen hyd yma. Mae pawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl yn destun balchder eithriadol imi, gan gynnwys ein holl gydweithwyr o fewn GIG Cymru, partneriaid ehangach, gwirfoddolwyr, a phawb sydd wedi manteisio ar y brechlyn hwn sy’n arbed bywydau. 

Bydd yna resymau, wrth gwrs, pam nad yw rhai unigolion wedi gallu manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn, a bydd yna rai nad oedd modd cael gafael arnynt. Rydym wedi gweithredu polisi ‘gadael neb ar ôl’ ac rydym yn cymryd camau i gysylltu ymhellach ag unigolion nad ydynt eto wedi cael eu brechu. Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un yng ngrwpiau 1-4 sydd heb glywed am eu hapwyntiad i gysylltu â’u bwrdd iechyd. Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Dros yr wythnos neu ddwy nesaf, rydym yn disgwyl i nifer y brechlynnau sy’n cyrraedd y DU ostwng fymryn. Mae’r newid hwn yn y cyflenwad yn rhywbeth sydd wedi’i gynllunio ac yr ydym yn ei ddisgwyl, a bydd yn effeithio ar bob rhan o’r DU. Rydym wedi ystyried hyn yn ein cynlluniau, ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau nac yn gohirio pryd y gall unigolion ddisgwyl cael eu hail ddos. Yn dilyn y gostyngiad hwn, disgwylir i’r cyflenwad gynyddu’n sylweddol o ddechrau Mawrth. Bydd ein seilwaith a’n capasiti yn hyblyg dros yr wythnosau nesaf yn ôl y cyflenwad a fydd ar gael; a byddwn yn barod i ymateb unwaith eto i’r cynnydd ym mis Mawrth.

Mae mwy na 715,000 o bobl wedi cael eu dos gyntaf o’r brechlyn yng Nghymru. Mae pob brechlyn a roddir yn fuddugoliaeth fechan yn erbyn y feirws, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at ein carreg filltir nesaf. Dim ond megis dechrau y mae’r gwaith caled, ond fel y mae GIG Cymru wedi dangos, rydym yn barod am yr her.