Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r ffordd ymlaen sydd orau gennyf ar gyfer casglu a rheoli  trethi datganoledig cyntaf Cymru sef  y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT).

Bydd y pwerau trethi sydd wedi’u datganoli yn Neddf Cymru 2014 yn ein galluogi i ddylunio trefn gyllidol sy’n gweithio yn llawer gwell i Gymru  – gan fodloni egwyddorion tegwch a symlrwydd, darparu sicrwydd, a chefnogi twf a swyddi. Bydd gennym drethi gwell, a fydd yn gweddu’n well i flaenoriaethau yng Nghymru, gyda mwy o refeniw o drethi Cymru’n cael ei wario yng Nghymru a gwell atebolrwydd.    

Erbyn 2018, bydd yr arenillion o ddwy dreth y DU y bydd y trethi datganoledig yn eu  disodli yn debygol o fod tua £300m.  Bydd angen inni sicrhau bod y trethi newydd – a fydd yn elfen fach ond arwyddocaol o’r cyllid cyffredinol sydd ar gael ar gyfer  gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – yn cael eu casglu’n ddiogel. A bydd arnom angen trefniadau hefyd sy’n galluogi trethdalwyr i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau mor ddidrafferth â phosibl.

Mae ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cyllid i gasglu a rheoli trethi datganoledig wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol at ddatblygu’r ffordd orau ymlaen.  Rwyf yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am ei gwaith adeiladol yn y maes hwn ac rwyf wedi cyhoeddi ymateb ffurfiol i’w hargymhellion ochr yn ochr â’r datganiad hwn.

Rwyf hefyd wedi bod yn gwrando’n ofalus ar safbwyntiau’r gymuned fusnes.  Mae wedi dweud wrthyf mai ei flaenoriaeth allweddol yw sicrhau cyfnod pontio llyfn i’r trethi newydd yn 2018, gan darfu cyn lleied â phosibl ar  drethdalwyr.  Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r llu o fusnesau sy’n gweithredu yng Nghymru a Lloegr.  Cafodd y pwynt hwn ei wneud yn gryf hefyd mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid.  

Mae fy Ngrŵp Cynghorol Trethi - sy’n cynnwys cynrychiolwyr o fyd busnes, TUC Cymru, y trydydd sector, llywodraeth leol,  a’r proffesiynau cyfrifyddu a chyfreithiol, ynghyd â thri aelod arbenigol - wedi bod yn ffynhonnell werthfawr arall o gyngor.  Ystyriaeth allweddol sydd wedi deillio o’r Grŵp fu pwysigrwydd sicrhau bod unrhyw gorff sy’n ymwneud â chasglu a rheoli trethi datganoledig yn cael ei ddal i gyfrif yn briodol am safonau’r gwasanaethau y maent yn eu cyflawni.  

Bydd Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), yr wyf yn bwriadu ei gyflwyno i’r Cynulliad y mis nesaf, yn creu Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) newydd.   ACC fydd yn meddu ar y pwerau cyfreithiol i gasglu a rheoli trethi gyda’r cyfrifoldeb terfynol dros eu gweithredu.  Bydd yn datblygu arbenigedd, capasiti  a gallu ym maes trethi Cymru, ac fe fydd yn atebol i Weinidogion Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol a threthdalwyr Cymru. Bydd yn ysgwyddo rôl hefyd mewn rhai elfennau ar gasglu a rheoli trethi.  Er hynny, bydd y Bil hefyd yn rhoi’r pŵer i’r ACC ddirprwyo casglu a rheoli swyddogaethau i gyrff eraill.

Rwyf wedi bod yn ystyried ystod o ddewisiadau ar gyfer sut y dylai’r swyddogaethau hyn gael eu trefnu er mwyn sicrhau’r cydbwysedd gorau posibl o gostau a manteision.  Yn benodol, rwyf wedi bod yn canolbwyntio ar ddewisiadau lle byddai’r ACC yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol, a /neu Gyfoeth Naturiol Cymru.

Mae gan HMRC wybodaeth a phrofiad helaeth o weithredu Trethi’r DU ac mae trethdalwyr Cymru’n gyfarwydd â delio â hwy.  Y farn gyffredinol yw bod y trefniadau  casglu a rheoli ar gyfer Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT) - a gaiff ei disodli yng Nghymru gan LTT - yn effeithlon ac yn effeithiol.  Mae ACC yn arwain ar ganiatáu safleoedd tirlenwi yng Nghymru, felly mae ganddo wybodaeth ardderchog eisoes am y sylfaen drethi a pherthynas sefydledig â gweithredwyr safleoedd a fydd yn talu’r LDT newydd. Mae’r Awdurdodau Lleol eisoes yn casglu dros £2 biliwn o drethi lleol yng Nghymru ac mae ganddo hanes o gyfraddau casglu uchel.

Rwyf yn ddiolchgar am gyfraniad cadarnhaol pob un o’r partneriaid posibl hyn.  Rwyf bellach wedi cadarnhau gyda chynrychiolwyr yr awdurdodau lleol nad yw’n ymarferol ar hyn o bryd iddynt fynd ati i gasglu a rheoli trethi datganoledig.  Er hynny, rwyf wedi cytuno i sefydlu cyd-weithgor â CLlLC i alluogi gwybodaeth ac arbenigedd ym maes gweinyddu trethi i gael eu rhannu ar draws lywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog. Rwyf yn edrych ymlaen at barhau â’r cydweithio agos rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar faterion trethi.

Rwyf yn cadarnhau heddiw mai’r ffordd ymlaen sydd orau gennyf yw i ACC weithio ag HMRC i gasglu a rheoli LTT.  Bydd HMRC yn cyflawni’r swyddogaethau cydymffurfio reolaidd mewn perthynas â thrafodiadau,  a bydd ACC yn ymgymryd â gwaith cymhleth ym maes cydymffurfio, osgoi a gorfodi i LTT.  

Rwyf hefyd yn cadarnhau y byddaf yn gofyn i ACC  ysgwyddo’r rhan fwyaf o swyddogaethau casglu a rheoli ar gyfer LDT, ac y byddaf yn dirprwyo gwaith cydymffurfio a  gorfodi LDT i ACC.  Ym mhob achos, caiff polisi a strategaeth trethi eu pennu gan Weinidogion Cymru.

Bydd gwybodaeth a phrofiad helaeth HMRC ym maes gweithredu Trethi’r DU o gymorth i ACC wrth feithrin arbenigedd, capasiti a gallu ym maes casglu trethi, a bydd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y cyfnod pontio yn llyfn, gan gyfyngu’r effaith ar drethdalwyr a busnesau yng Nghymru.  A bydd yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd gan ACC eisoes ar gyfer gweithredu tirlenwi  yng Nghymru o fudd arbennig wrth  weinyddu LDT.

Rwyf yn bwriadu adolygu'r trefniadau a sefydlwn o Ebrill 2018 ar ôl iddynt fod ar waith am bum mlynedd. Mae gwedd ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru’n newid, ac yng ngoleuni newidiadau posibl yn y setliad datganoli, gan gynnwys y potensial ar gyfer datganoli trethi ymhellach, bydd yr adolygiad hwn yn ein galluogi i adeiladu ar gyfleoedd posibl yn y dyfodol.

Er gwaethaf fy sylwadau, nid yw Llywodraeth y DU’n barod i drosglwyddo'r arian y mae ei angen i gwmpasu’r maes gwaith newydd hwn. Felly Llywodraeth Cymru fydd yn ysgwyddo’r gost o sefydlu a gweithredu’r trefniadau casglu a rheoli ar gyfer trethi datganoledig.   Rwyf wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o wybodaeth gadarn am y gost â phosibl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod y broses graffu ar gyfer Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru).  Ar hyn o bryd nid oes modd cynhyrchu amcangyfrif cadarn o gostau sefydlu neu weithrediadau.  Er hynny, ar sail y dystiolaeth  sydd ar gael, rwyf yn hyderus mai’r ffordd orau ymlaen a nodir yn y datganiad yw’r dewis mwyaf fforddiadwy.  

Yn yr hydref, cyn y ddadl Cam 1 ar Fil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru), byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad ar waith i sefydlu trefniadau casglu a rheoli.  Caiff hyn ei lywio gan drafodaethau manwl ynghylch trefniadau partneriaeth ag HMRC ac ACC dros y misoedd i ddod, a bydd yn cynnwys amcangyfrifon cychwynnol o gostau sefydlu a gweithredu.