Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch cau Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru ym mis Chwefror 2023.

Sefydlwyd Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru (WLSIF) yn 2012 ar gyngor Panel y Sector Gwyddorau Bywyd. Roedd yn gweithredu ochr yn ochr â mentrau eraill i gefnogi datblygiad y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru.

Fe’i rheolwyd gan y rheolwr cronfa arbenigol Arix Capital Management, gyda Cyllid Cymru (Banc Datblygu Cymru erbyn hyn) yn gweithredu fel deiliad y gronfa ar ran Llywodraeth Cymru.  Ei nod oedd cynyddu gallu BBaCh gwyddorau bywyd yng Nghymru i gael mynediad at gyllid ecwiti, denu busnesau gwyddorau bywyd i Gymru, cynyddu cyfradd twf a chyflogaeth yn y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru a chynyddu masnacheiddio ymchwil, datblygu ac arloesi gwyddorau bywyd.

Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £50miliwn yng Nghronfa Buddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru. Bu i’r gronfa lwyddo yn sylweddol y tu hwnt i gyd-fuddsoddiad y sector preifat ar lefel y ddêl, gan ddenu dros £200miliwn. Roedd mwyafrif buddsoddiad Llywodraeth Cymru ar ffurf cyfalaf trafodion ariannol, math o gyfalaf y gellir ei ddefnyddio ar gyfer buddsoddiad ecwiti neu fenthyciadau yn unig, ac sy'n ad-daladwy yn y pen draw. 

Gwnaeth Arix Capital Management 11 buddsoddiad mewn naw cwmni ar wahân. Un llwyddiant nodedig oedd y buddsoddiad mewn Grŵp Simbec Orion, sy'n parhau i gyflogi mwy na 140 o bobl ym Merthyr Tudful mewn canolfan treialon clinigol blaenllaw. Daeth y buddsoddiad o £8.75miliwn â pherchnogaeth y cwmni yn ôl i Gymru a diogelu'r holl swyddi ar y safle pwrpasol.  Arweiniodd at ad-daliad o £20miliwn i Lywodraeth Cymru, elw ar y cyfalaf na fyddem wedi’i chael pe bai mecanwaith grant wedi’i fabwysiadu.

Yn ystod oes y gronfa o 10 mlynedd, mae'r buddsoddiadau a wnaed wedi cefnogi canlyniadau cadarnhaol ac wedi creu swyddi o ansawdd uchel. Amlygodd adolygiad annibynnol a gynhaliwyd gan Regeneris yn 2016 fod y gronfa wedi arwain at nifer o fargeinion proffil uchel yn ymwneud â buddsoddwyr sefydliadol mawr a'i bod yn allweddol wrth roi proffil i sector gwyddorau bywyd Cymru a chefnogi ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd blaenllaw i'w cynnal yng Nghymru.

At ei gilydd, mae'r gronfa wedi helpu i ddiogelu neu greu mwy na 310 o swyddi gwerth uchel dros 10 mlynedd yng Nghymru. Erbyn diwedd mis Rhagfyr 2019, roedd gwerth teg gweddill y buddsoddiadau wedi gostwng i £15m, gan adlewyrchu perfformiad y portffolio. Erbyn diwedd 2020, a hyd at 2022, roedd tua 50% o weddill gwerth y gronfa yn cael ei gyfrif gan gyfran ecwiti’r gronfa yn Rutherford Health. Wedi'i effeithio'n sylweddol gan Covid-19 a chostau cynyddol, cyhoeddodd Rutherford Health ei fwriad i ddiddymu ym mis Mehefin 2022. Newidiodd y cyhoeddiad hwn y rhagolygon ariannol ar gyfer y gronfa yn sylweddol.

Daeth tymor rhagnodedig y gronfa o 10 mlynedd i ben ym mis Chwefror 2023 ac mae'r partneriaid cyfyngedig bellach wrthi'n dirwyn y bartneriaeth a'r gronfa i ben.  Mae buddsoddiadau mewn pedwar o'r wyth cwmni sy'n weddill wedi'u diddymu ac mae Banc Datblygu Cymru wedi ymgymryd â rheoli'r 4 buddsoddiad sy'n weddill. Bydd Banc Datblygu Cymru yn ceisio cyfleoedd priodol i adael y buddsoddiadau hyn ar yr adeg briodol. Mae gwerth presennol yr asedau a drosglwyddwyd oddeutu £2.5miliwn. Gan adlewyrchu hyn, mae bwrdd Banc Datblygu Cymru wedi gwireddu’r darpariaethau hynny i ddileu £27.1miliwn yn ei gyfrifon ar gyfer 2022-23 ac wedi rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru. Gan ragweld colled sylweddol o ran gwerth, yn 2020-21 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gydnabod darpariaeth yn ei chyfrifon yn erbyn y gronfa o £10.5miliwn.

Roedd y gronfa ei hun yn rhan uchelgeisiol o ddatblygu ecosystem gwyddorau bywyd fywiog yng Nghymru.  Mae buddsoddiad i fusnesau gwyddorau bywyd cyfnod cynnar yn risg hanfodol uchel, gyda mentrau llwyddiannus yn aml yn dibynnu ar farn rheoleiddwyr neu endidau rheoledig a daw eu casgliadau neu eu dewisiadau ar ôl sawl rownd o fuddsoddiad.

Er bod y gronfa hon wedi arwain yn y pen draw at golled ariannol, mae wedi cyflawni llawer o'i hamcanion datganedig. Roedd yn fuddsoddiad peilot, unigryw o ran ei fod yn cael ei reoli gan reolwr cronfa allanol - dull na chafodd ei ailadrodd ers hynny. Mae'r colledion a ddioddefodd yn cael eu lliniaru gan y buddsoddiad hwn o fewn portffolio mwy o fuddsoddiadau Llywodraeth Cymru o fewn Banc Datblygu Cymru gan ddefnyddio cyfalaf trafodion ariannol.  Y strategaeth yw buddsoddi'r math hwn o gyllid ad-daladwy fel rhan o bortffolio cytbwys.  Mae hyn yn galluogi colledion, pan fyddant yn digwydd, i gael eu gwrthbwyso gan enillion cryfach ar fuddsoddiadau risg is.

At ei gilydd, mae portffolio Banc Datblygu Cymru o gronfeydd a gwasanaethau gwerth £1.6bn sy'n cael eu rheoli, ar y trywydd iawn i ad-dalu ei rwymedigaethau i Lywodraeth Cymru, a rhaid ystyried y dileu hwn yn y cyd-destun ehangach hwnnw.