Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi y newyddion diweddaraf inni ar y cyhoeddiad diweddar gan Tesco i ymgynghori ar gyfuno eu Canolfannau Cysylltu â Chwsmeriaid yn un safle yn Dundee, yr Alban, ble y byddai 250 o swyddi'n cael eu creu.  Byddai hyn yn arwain at gau safle Caerdydd y flwyddyn nesaf gyda'r posibilrwydd o golli 1,100 o swyddi.

Mae hyn yn newyddion ofnadwy i'r gweithwyr a'u teuluoedd. Mae'r Prif Weinidog a minnau eisoes wedi siarad gyda Matt Davies, Prif Swyddog Gweithredol Tesco i fynegi ein pryder ynghylch y penderfyniad hwn, ac wedi ail-adrodd ein hymrwymiad i wneud popeth y gallwn i gefnogi'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd iawn yma. Byddwn yn cydweithio'n agos iawn â Tesco a'r prif asiantaethau cymorth yn lleol, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith, colegau a Chyngor Caerdydd i ddarparu pecyn o ofal cynhwysfawr i bob gweithiwr y mae'r penderfyniad hwn yn cael effaith arnynt. Mae'r undeb USDAW yn gweithio'n glos gyda chydweithwyr i roi'r cymorth y maent ei angen ac maent yn rhan amlwg o'r broses ymgynghori barhaus.

Mae hyn yn newyddion annisgwyl - mae'r diwydiant gwasanaethau cwsmeriaid yn gryf iawn yng Nghymru, gyda Caerdydd yn lleoliad llwyddiannus sy'n datblygu ar gyfer gweithrediadau ar draws ystod eang o is-sectorau.  Yn amlwg, nid yw unrhyw symud sy'n mynd â swyddi a buddsoddiad allan o Gymru yn newyddion da.  

Mae Tesco wedi ail-ddatgan nad yw'r penderfyniad hwn yn adlewyrchu'r perfformiad na'r busnes yng Nghaerdydd. Hyd yma, bu'r safle yn llwyddiannus iawn.

Rydym  yn awyddus i gydweithio â Tesco i liniaru effaith y newyddion hwn ac i weld pa ddefnydd arall y gellid ei wneud o'r safle yn y dyfodol ac a oes modd symud gweithwyr i leoliadau eraill. Pe byddai swyddi'n cael eu colli, byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn cysylltu â'r amrywiol asiantaethau a sefydliadau sy'n gallu gweithio gyda'r gweithwyr yr effeithiwyd arnynt i roi cymorth, cyngor ac arweiniad, ac i dynnu sylw at ffynonellau eraill o gyflogaeth.

Mae ein rhaglen ReAct 3 yn cynnig pecyn cynhwysfawr o gymorth i unigolion yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt gan y diswyddiadau, ac i fusnesau sy'n cyflogi gweithwyr cymwys sydd wedi colli eu swyddi.  Nod y rhaglen yw helpu gweithwyr yng Nghymru sydd wedi colli eu swyddi i ddod o hyd i waith arall cyn gynted â phosib a gwneud yn siŵr nad ydynt yn mynd yn ddi-waith yn yr hirdymor.

Rydym hefyd wedi hysbysu y cyflogwyr yr ydym mewn cysylltiad â hwy, gan gynnwys Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru am y staff medrus fydd yn dod i'r farchnad swyddi yn  ystod y flwyddyn nesaf. Bydd Fforwm Canolfan Gyswllt Cymru yn gweithio ble y gall gyda Tesco a'r gweithwyr yr effeithir arnynt i helpu i gael gwaith arall o fewn y diwydiant.  

Mae diddordeb sylweddol gan gwmnïau ar draws y rhanbarth i ddefnyddio'r doniau sydd ar gael yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.  Mae cyfleoedd am swyddi yn cael eu creu mewn canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid eraill, sy'n rhoi rhywfaint o sicrwydd inni y bydd cyfleoedd eraill ar gael.