Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Clwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Cymru yw mudiad ieuenctid gwledig mwyaf Cymru.  Mae ganddo ryw 6,000 o aelodau trwy 12 Ffederasiwn Sirol a 155 o glybiau lleol.

Cafodd CFfI Cymru wybod yn ddiweddar na fu eu cais am arian i Cyfoeth Naturiol Cymru a Chronfa’r Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol yn llwyddiannus.  Hoffwn esbonio eu bod yn brosesau cystadleuol ac y bu ceisiadau CFfI Cymru yn aflwyddiannus.  Nid toriadau yn y gyllideb oedd y bai am eu methiant, fel y mae rhai wedi bod yn ei ddweud.  

Mae trafodaethau rhwng CFfI Cymru a swyddogion o’m Hadran, ynghyd â thrafodaethau rhwng y mudiad a rhanddeiliaid eraill, wedi cadarnhau y bydd angen model busnes newydd ar y mudiad os yw am fynd yn ei flaen yn llwyddiannus.  Fel ymateb i’r her hwn, bydd CFfI Cymru yn cynnal Rhaglen Galluogi Newid.  Bydd y rhaglen yn cael cefnogaeth lawn fy swyddogion a bydd yn caniatáu i CFfI Cymru feithrin ei alluoedd a datblygu cynllun busnes 5 mlynedd fydd yn pennu cyfeiriad clir iddo ac yn nodi sut y gall greu incwm i ddiogelu ei ddyfodol.  Rhan o gefnogaeth y Llywodraeth hon i’r rhaglen fydd grant i roi’r mudiad ar sylfeini cadarn.  Byddwn yn parhau i weithio gyda’r CFfI i adolygu hynt y Rhaglen Galluogi Newid i sicrhau bod y mesurau’n esgor ar y canlyniadau sydd eu hangen i sicrhau bod gan y mudiad ddyfodol cynaliadwy  

Mae ar bob diwydiant llwyddiannus angen ei adfywio, gwaed newydd a syniadau newydd o bryd i’w gilydd, ac mae Llywodraeth Cymru trwy wahanol fentrau, gan gynnwys y Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid (YESS) ac Academi Amaeth  Cyswllt Ffermio, dwy fenter hynod lwyddiannus, yn benderfynol o weld pobl ifanc a thalentog â chymwysterau da yn dod yn eu blaenau i arwain busnesau fferm llwyddiannus ac yn tyfu’n arweinwyr o fewn y diwydiant amaeth ehangach.  Mae ein hamcanion yn adleisio adolygiadau diweddar gan y Llywodraeth hon: adolygiad annibynnol Kevin Roberts o Gyfnerthedd Ffermio yng Nghymru, ac adroddiad Malcolm Thomas ar y Genhedlaeth Nesaf o Ffermwyr.  

Cyhoeddodd yr Athro Wynne Jones Adolygiad annibynnol o'r hyn a addysgir gan golegau addysg bellach a pherthnasedd hynny o ran helpu busnesau ffermio yng Nghymru.  Yn ei adroddiad, mae’r Athro Jones yn cydnabod y gwaith pwysig y mae CFfI Cymru’n ei wneud wrth wella sgiliau ei aelodau ac yn cydnabod bod y sgiliau sy’n cael eu dysgu trwy fod yn aelod o’r CFfI o fudd aruthrol i unigolion sydd am ddilyn gyrfa mewn ffermio a thu hwnt.  Mae’n bwysig sylweddoli na fydd pob aelod o CFfI Cymru am ddilyn gyrfa mewn ffermio, ond fe fydd llawer am wneud a dyna pam mae’r mudiad yn fudiad mor bwysig i Lywodraeth Cymru. 
Mae CFfI Cymru yn chwarae rhan bwysig gyda’r llywodraeth a rhanddeiliaid pwysig eraill i helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a thrwy gefnogi’r mudiad yn ariannol dros y tymor byr, credaf eu bod yn cefnogi llwyddiant ac iechyd tymor hir ffermio yng Nghymru.