Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn parhau i fod ymhlith ein grwpiau ethnig lleiafrifol mwyaf agored i niwed ac maent yn ganolog i weithgareddau ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi cyllid i gefnogi ein cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru gyda sgiliau cynhwysiant digidol a chymorth tanwydd gaeaf.

Cynhwysiant Digidol

Fel rhan o gontract Cymunedau Digidol Cymru, bydd ffrwd waith benodol yn parhau i ganolbwyntio ar wreiddio cynhwysiant digidol mewn sefydliadau sy'n gweithio gyda chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Mae'r contract, trwy'r contractwr Cwmpas, yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i staff, gwirfoddolwyr a sefydliadau rheng flaen sy'n gweithio gyda phobl sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i'w galluogi i ymgysylltu â chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a datblygu eu sgiliau digidol. 

Bydd y contract hefyd yn cefnogi sefydliadau perthnasol i ddod yn Hybiau Cynhwysiant Digidol er mwyn cael mynediad i'r Banc Data Cenedlaethol addarparu data SIMS am ddim i aelodau'r gymuned sydd mewn angen, gan gydnabod bod cymunedau crwydrol yn wynebu problemau cysylltiad ac o ran cael mynediad at drydan dibynadwy ar safleoedd.

Mae'r gweithgareddau sy'n rhan o'r contract hefyd yn cynnwys:

  • Cyflwyno sgiliau digidol hanfodol wyneb yn wyneb a hyfforddiant hyrwyddwyr digidol i sefydliadau sy'n gweithio gyda'r gymuned - gan gefnogi eu hanghenion digidol megis cael mynediad at sesiynau theori gyrru ar-lein, er enghraifft. 
  • Cyd-greu cyfleoedd dysgu a datblygu ar gyfer sgiliau llythrennedd digidol a hyder digidol. 
  • Darparu cymorth ymarferol i fagu hyder wrth ddefnyddio technoleg a dyfeisiau. 

Cymorth Tanwydd Gaeaf 

Rwyf hefyd wedi darparu cyllid o £290k ar gyfer pecyn o gymorth tanwydd gaeaf i'r gymuned Sipsiwn Roma Teithwyr. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys £95k ychwanegol  ar gyfer y Sefydliad Banc Tanwydd i gefnogi aelodau o'r gymuned sydd mewn perygl o wynebu argyfwng tanwydd, a £195k ar gyfer awdurdodau lleol i gefnogi costau tanwydd ehangach.

Gan gweithio trwy rwydwaith o bartneriaid atgyfeirio, mae'r Sefydliad Banc Tanwydd yn rhedeg cynllun Talebau Tanwydd gyda'r nod o ddarparu cymorth mewn argyfwng i'r aelwydydd hynny sy'n gorfod talu ymlaen llaw am eu hynni, ond nad ydynt yn gallu gwneud hynny. 

Mae'r Sefydliad Banc Tanwydd hefyd yn rhedeg Cronfa Wres a all ddarparu cymorth i aelwydydd cymwys nad ydynt wedi'u cysylltu â'r prif grid nwy er mwyn prynu tanwydd gwresogi swmp megis olew, nwy petrolewm hylifedig neu lo. 

Yn ychwanegol at y pecyn cymorth hwn mae cyllid ar gael i awdurdodau lleol, ar sail trothwy isaf o ran lleiniau, i gefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr nad ydynt o bosibl yn gymwys i gael cymorth gan y Sefydliad Banc Tanwydd, er enghraifft y rhai nad oes ganddynt fesurydd rhagdalu neu nad ydynt yn bodloni'r diffiniad o argyfwng tanwydd.

Bydd awdurdodau lleol cymwys yn gallu cael gafael ar y cyllid hwn i weithio'n hyblyg gyda'u cymunedau er mwyn darparu'r cymorth sy'n eu helpu fwyaf yn eu hamgylchiadau unigol. 

Mae mwy i'w wneud i gefnogi'r gymuned ddifreintiedig hon wrth i ni barhau i gyflawni ar sail nodau ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i sicrhau ein bod yn byw mewn Cymru sy'n wirioneddol deg a chyfartal lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl na'i adael ar ôl.