Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy’n darparu’r Datganiad Ysgrifenedig hwn i nodi cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i sector yr undebau credyd.

Byddaf  yn rhoi hyd at £422, 334 i undebau credyd yn ystod 2017-18 i’w helpu i gyflawni’r ymrwymiadau a nodir yn ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi undebau credyd drwy roi symiau sylweddol o arian iddynt. Gwnaed y buddsoddiad hwn er mwyn helpu’r aelodau hynny o’r gymdeithas sydd wedi eu hallgáu fwyaf yn ariannol i allu defnyddio gwasanaethau ariannol fforddiadwy. Dyna yw’r nod o hyd, ac mae’n Strategaeth Cynhwysiant Ariannol, yn ategu hynny.

Mae’r prosiect undebau credyd tair blynedd presennol wedi gweld gostyngiad graddol yn yr arian a roddir – o £900,000 yn 2014-15 i £422, 334 yn 2016-17. Mae’r gostyngiad graddol hwn wedi helpu undebau credyd i ganolbwyntio ar fodloni eu heriau cynaliadwyedd, ac maent oll yn cydnabod bod rhaid gwneud hynny.

Yng ngoleuni’r ffaith mai prin yw’r cyllid sydd ar gael, mae’n rhaid gwneud dewisiadau anodd. Bydd cyfrannu at yr ymrwymiadau sydd yn y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol a chefnogi cynaliadwyedd undebau credyd yn ofynion ar gyfer cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn 2017-18.

Calonogol oedd gweld Strategaeth yr Undebau Credyd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mawrth 2016, a ddatblygwyd gan yr undebau llafur eu hunain ac a oedd yn arddangos ymdeimlad cyffredin o bwrpas. Mae’n hollbwysig bod undebau credyd yn parhau i gydweithio er mwyn cefnogi ei gilydd gan rannu arferion da.

Yn ogystal â chefnogi’r Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol yn uniongyrchol, bydd  cyllid Llywodraeth Cymru yn helpu undebau credyd i gyflawni’r amcanion yn eu strategaeth sy’n cynnwys sicrhau cynaliadwyedd annibynnol yn y tymor hir i’r sector yng Nghymru; cefnogi twf ynaelodaeth ledled Cymru; a hybu cydweithrediad a chydweithio effeithiol rhwng  undebau credyd Cymru.

Er mwyn cyflawni mudiad undeb credyd cynalidadwy, rwyf am weld perthynas yn cael ei meithrin sy’n canolbwyntio ar ddenu aelodaeth o’r sector preifat drwy raglenni didynnu o’r gyflogres. Yn ddiweddar, ysgrifennais at nifer o gwmnïau mawr yn y sector preifat i hyrwyddo’r undebau credyd gan dynnu sylw at y buddiannau i’r gweithiwr a ddaw yn sgil bod yn aelod.

Dros y misoedd nesaf, bydd y cynlluniau i wneud y mwyaf o’r arian sy’n cael ei roi i undebau credyd y flwyddyn nesaf yn cael eu datblygu ymhellach drwy gydweithio â’r mudiad undebau credyd. Rhaid i undebau credyd dderbyn yr her a dangos sut y bydd yr arian y flwyddyn nesaf yn eu helpu i ddod yn hollol gynaliadwy, a hynny wrth gyflawni’r ymrwymiadau sydd yn ein Strategaeth Cynhwysiant Ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl gefnogol i undebau credyd, ond rhaid i’r arian cyhoeddus a roddir iddynt gael mwy o effaith, ac arwain at ddatblygu model mwy cynaliadwy a chyflawni newidiadau er gwell ledled ein cymunedau.