Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i Aelodau am y cymorth sy’n cael ei roi gennym i undebau credyd.

Mae undebau credyd yn achubiaeth i lawer o aelwydydd sy’n ei chael hi’n anodd i reoli arian yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Wrth i’r argyfwng waethygu, mae nifer sylweddol wedi ymuno ag undebau credyd er mwyn chwilio am gredyd fforddiadwy.

Rydym yn parhau i weithio i godi proffil a chodi ymwybyddiaeth o undebau credyd fel ffynhonnell amgen o fenthyca, sy’n foesegol a chyfrifol. Mae’n hanfodol ein bod yn lledaenu’r neges ac yn dweud y gall undebau credyd gefnogi pobl sy’n teimlo’r esgid yn gwasgu oherwydd yr argyfwng costau byw. Yn bwysig iawn, mae undebau credyd wedi ymrwymo i hybu arferion ariannol da, ochr yn ochr â darparu cynilion a benthyciadau, gan gynnig cymorth, cyngor a deunyddiau addysgol ar drin arian a chyllid personol.

Er bod rhai o'u cyfraddau'n uwch na'r benthyciadau rhataf sydd ar gael gan fanciau prif ffrwd, maent yn llawer rhatach na'r cynhyrchion eraill sydd ar gael i'r rhai sydd fel arfer yn cael eu gwrthod ar gyfer benthyciadau gan fanciau'r stryd fawr, fel benthyca stepen drws neu fenthyciadau diwrnod cyflog, pan all y gyfanradd ganrannol flynyddol fod yn fwy na 1000%. Hefyd, mae cap ar faint o log y gall undebau credyd ei godi ar eu benthyciadau – gyda'r cyfraddau uchaf y gallant godi wedi ei gapio ar 3% y mis calendr ar y balans sy’n weddill.

Mae undebau credyd yn arf cryf yn ein hymdrechion i drechu tlodi, ac maent yn bartner allweddol yn ein gwaith cynhwysiant ariannol. Mae hyn wedi ei adlewyrchu yn ein cefnogaeth ariannol barhaus – rydym wedi darparu £500,000 er mwyn iddynt ehangu a chyrraedd mwy o bobl o fewn cymunedau ledled Cymru eleni.

Y llynedd, darparodd Llywodraeth Cymru £1.2m i roi'r hyder i undebau credyd ehangu eu gwasanaethau benthyca i bobl sydd â hanes o gredyd gwael. Mae'r cyllid hwn yn cael ei ailgylchu i'r flwyddyn ariannol hon i gefnogi mwy o bobl i gael mynediad at gredyd fforddiadwy. Hyd yma mae mwy na 2000 o bobl wedi cael benthyciadau am y tro cyntaf gan undeb credyd, ac mae hyn yn parhau i dyfu.

Gyda'r rhan fwyaf o bobl bellach yn cyrchu cyllid ar-lein, mae'n hanfodol bod undebau credyd yn cymryd camau i ddigideiddio'n llawn fel y gallant gyrraedd cymaint o ddarpar aelodau â phosibl. Mae undebau credyd wedi ymateb i'r her hon ac yn darparu cynigion digidol cyfatebol i’r banciau drwy ddefnyddio £383,000 o gymorth gan Lywodraeth Cymru ers 2021 i ddarparu datblygiadau technoleg ariannol. Mae undebau credyd hefyd yn cynyddu eu presenoldeb yn y gymuned, drwy ddefnyddio hybiau mewn llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a lleoliadau eraill ledled Cymru.

Yn y cyfarfodydd Benthycwyr Cyfrifol yr wyf yn eu cadeirio, rwyf wedi gofyn i wasanaethau cynghori, darparwyr tai ac eraill edrych ar sut y gallent gydweithio ag undebau credyd lleol i ganfod y ffordd orau posib o gefnogi’r cleientiaid bregus y maent yn eu gwasanaethu. Mae hyn yn cynnwys darparu gwybodaeth ar undebau credyd fel bod modd i bobl ddod i wybod am eu hopsiynau ar gyfer cael credyd mewn ffordd gyfrifol. Rwyf am i’r cysylltiadau hyn dyfu, gyda sectorau'n cydweithio i gefnogi pobl sy'n debygol o barhau i fenthyca i wneud hynny'n fforddiadwy, a sicrhau nad ydynt yn syrthio i ddwylo benthycwyr arian anghyfreithlon.

Mae’r argyfwng costau byw parhaus yn achosi i rôl undebau credyd fod cyn bwysiced ag erioed. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag undebau credyd i gryfhau eu gwaith a rhoi cefnogaeth i fwy o bobl ar draws Cymru.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i Aelodau. Os bydd yr Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.