Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes o gefnogi Undebau Credyd y gallwn fod yn falch ohoni, ac mae wedi buddsoddi symiau sylweddol o arian yn y sector i ddarparu mynediad at gredyd teg a fforddiadwy. Mae Undebau Credyd yn allweddol wrth i ni fynd i’r afael â thlodi a byddant yn parhau i fod yn un o brif bartneriaid Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gefnogi cynhwysiant a lles ariannol ac adeiladu gwytnwch ariannol.

Rwy’n cyflwyno’r datganiad hwn i amlinellu cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru, gyda  hyd at £1 miliwn yn ychwanegol ar gael yn ystod 2020/21 wrth i Undebau Credyd gefnogi’r rhai sydd angen cefnogaeth yn ystod yr argyfwng coronafeirws presennol.

Nod y buddsoddiad hwn yw sicrhau bod  pawb y mae angen credyd arnynt yn cael mynediad at wasanaethau ariannol fforddiadwy gan undebau credyd.

Yn ystod y cyfnod clo, gwelodd undebau credyd, fel y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau ariannol, fod nifer y ceisiadau am fenthyciadau wedi gostwng, a bydd hyn, er bod pethau’n dechrau dychwelyd i’r lefel arferol, yn cael effaith ar eu hincwm. Cafwyd ymateb da i gronfa benthyciadau cyfalaf blaenorol Llywodraeth Cymru , ac felly rydym yn darparu hyd at £1 miliwn pellach o gyfalaf angenrheidiol i undebau credyd sydd dirfawr ei angen arnynt. Bydd modd gwneud cais i Gronfa Benthyciadau Cyfalaf i’r Undeb Credyd, yn ystod cyfnod penodol, a gwneir dyraniadau ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon.

Mae undebau credyd yn ffordd wych a moesegol i bobl allu gwneud arbedion yn gyson, a benthyg yn gyfrifol ac mewn modd fforddiadwy. Yn ystod y cyfnod clo, roeddent wedi gwneud ymdrechion sylweddol i gynnal gwasanaethau hanfodol i gwsmeriaid presennol a hefyd i aelodau newydd oedd yn awyddus i fenthyca'n fforddiadwy. Rwy’n falch, wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio, bod yr undebau credyd hynny a oedd yn gorfod lleihau eu horiau agor, bellach wedi dechrau ailagor eu canghennau a chynyddu'r ystod o wasanaethau sydd ar gael.  Bydd hyn yn bwysig wrth i bobl geisio ailedrych ar eu gweithdrefnau ariannol.

Yn fwy nag erioed, bydd aelodau nawr yn disgwyl gweld yr undebau credyd y maent yn ymddiried ynddynt yn ddarparu cymorth i’w harwain drwy’r cyfnod ansicr a newydd sydd o'n blaenau. Dros y chwe mis diwethaf mae undebau credyd wedi dangos eu gwydnwch ac yn parhau i fod yn gefn i unrhyw un sydd angen credyd fforddiadwy. Rwy’n diolch iddynt am hynny.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae undebau credyd wedi gweithio i ddenu aelodau newydd gyda chymorth ymgyrchoedd marchnata cenedlaethol a brand cenedlaethol, sef Undebau Credyd Cymru, sydd wedi helpu i'w huno a chodi ymwybyddiaeth o bwy ydynt, lle mae nhw a beth y maent yn ei wneud.

Bellach, maent wedi’u sefydlu fel y prif ddarparwyr cynilion a benthyciadau moesegol sydd â'r cyrhaeddiad ehangaf yng Nghymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf agorwyd pymtheg pwynt casglu a changhennau newydd ledled Cymru, gyda'r un diweddaraf yng Nghaerfyrddin. Yn ogystal, ehangwyd y gwasanaethau digidol i gynnig mwy o fynediad ar-lein, ac ehangwyd cyrhaeddiad y rhaglenni addysg ariannol mewn ysgolion.

Mae Undebau Credyd hefyd wedi ymdrechu'n sylweddol i gynyddu partneriaethau cyflogres. Mae llawer o gyflogwyr ledled Cymru'n manteisio ar hyn, gan annog staff i gynilo'n rheolaidd a benthyca'n fforddiadwy, gan gefnogi lles ariannol. Rwyf am weld y cydberthnasau hyn yn parhau i ffynnu – mae’r pandemig presennol wedi tynnu sylw’n fwy nag erioed at yr angen i gadw rhywbeth wrth gefn, pan fo hynny’n bosibl, at gyfnod anodd. 

Mae Undebau Credyd yn awyddus i gryfhau a thyfu, gyda chymorth strategaeth newydd a ddatblygwyd gan y sector a fydd yn cael ei chyhoeddi'n fuan.

Rwy’n falch o allu darparu'r arian ychwanegol hwn er mwyn i ni barhau i fod ag Undebau Credyd cryf yng Nghymru sy’n darparu mynediad at gredyd teg, cyfrifol, moesegol a fforddiadwy ar draws Cymru.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.