Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cymru yn gartref i rai o'r arfordiroedd mwyaf trawiadol ac ecolegol gyfoethog yn Ewrop. Mae ein traethau a'n dyfroedd ymdrochi mewndirol nid yn unig yn asedau naturiol hanfodol ond hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi cymunedau lleol, iechyd a lles y cyhoedd, a'n sector twristiaeth ffyniannus. Bob blwyddyn mae miloedd o bobl yn mwynhau nofio, padlo, a chysylltu â natur mewn safleoedd ymdrochi dynodedig ledled y wlad - gan dynnu sylw at yr angen i ddiogelu a gwella'r dyfroedd hyn ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Wrth i ni barhau i gyflawni ein huchelgeisiau a'n hymrwymiadau amgylcheddol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rwy'n falch o fyfyrio ar y cynnydd cadarnhaol a wnaed wrth wella ansawdd dyfroedd ymdrochi yng Nghymru. Mae'r cynnydd hwn wedi'i wneud yn bosibl trwy gydweithredu cryf ar draws cyrff cyhoeddus, y diwydiant dŵr, rheoleiddwyr amgylcheddol, a chymunedau. Rydym yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Rydym wedi ymrwymo i ddull rhagweithiol, tryloyw a seiliedig ar dystiolaeth i sicrhau bod ein holl ddyfroedd ymdrochi yn lân, yn ddiogel ac yn wydn yn wyneb heriau hinsawdd ac ecolegol.

Eleni cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus gennym i geisio barn ar ddau safle newydd arfaethedig ar gyfer dynodi dŵr ymdrochi. Roedd yn arbennig o dda gweld y ddau gynnig yn canolbwyntio ar leoliadau mewndirol; Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yng Nghaerdydd, a'r Bont Droi yn Llandeilo, sy'n adlewyrchu ymrwymiad ein Rhaglen Lywodraethu i gynyddu nifer y dyfroedd ymdrochi mewndirol dynodedig a chryfhau monitro ansawdd dŵr ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hwn.

Ar ôl ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad a barn rhanddeiliaid, mae'n bleser gennyf gyhoeddi y bydd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn cael eu hychwanegu at restr Cymru o ddyfroedd ymdrochi dynodedig ar gyfer tymor 2025. Mae hyn yn dod â chyfanswm nifer y dyfroedd ymdrochi dynodedig yng Nghymru i 112 ac mae'n nodi ein trydydd safle mewndirol - cam sylweddol ymlaen yn ein huchelgais i adlewyrchu'n well sut mae pobl yn dod i gysylltiad â dŵr ledled Cymru.

Ar gyfer y cais am Bont Droi Llandeilo, mae angen ystyriaeth bellach. Codwyd pryderon gan randdeiliaid a'r cyhoedd ynghylch a yw'r cais yn adlewyrchu'n gywir nifer yr ymdrochwyr sy'n defnyddio'r safle. Gan mai'r maen prawf craidd i Weinidogion Cymru ei ystyried yn y rheoliadau yw a oes disgwyl nifer fawr o ymdrochwyr, mae'r pryderon hyn yn berthnasol i'm penderfyniad ynghylch dynodi'r safle.  Trwy ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd, ynghyd â’r ymatebion i’r ymgynghoriad, ni allaf ddod i’r casgliad bod y prawf rheoleiddiol hwn wedi ei fodloni.  Felly, rwyf wedi penderfynu adolygu'r cais hwn tan 31 Hydref, gan ganiatáu amser i'r ymgeisydd a'r rhanddeiliaid perthnasol ddarparu rhagor o dystiolaeth. Gobeithio y bydd hyn yn rhoi cyfle i ddatrys problemau.

Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu hategu gan dystiolaeth gadarn, dryloyw sy'n adlewyrchu patrymau defnydd go iawn yn gywir. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn niwtral a gwrthrychol wrth asesu ceisiadau, gan sicrhau fod pob cyflwyniad yn cael ei drin yn deg, yn gyson, ac yn unol â'r fframwaith deddfwriaethol.

Fel rhan o'n huchelgais tymor hwy i foderneiddio'r fframwaith rheoleiddio, rhaid i'n rhaglen dyfroedd ymdrochi barhau i esblygu yn unol ag ymddygiadau a disgwyliadau newidiol y cyhoedd. Dyna pam y gwnaethom ymgynghori eleni hefyd ar feysydd o'r broses ymgeisio lle roedd angen mwy o eglurder i helpu'r cyhoedd i wneud penderfyniadau mwy gwybodus. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd canllawiau clir, hygyrch i ymgeiswyr, a rhoddodd yr ymgynghoriad fewnwelediadau gwerthfawr ar sut y gallwn wella tryloywder a defnyddioldeb ein gwybodaeth ac felly byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd cyn y tymor ymdrochi. Rydym yn arbennig o falch fod yr ymgynghoriad wedi cydnabod yr angen am ddull wedi'i deilwra mwy rhwng lleoliadau arfordirol a mewndirol.  Bydd fy swyddogion yn rhyddhau canllawiau diwygiedig maes o law - rhywbeth rydym yn gobeithio fydd yn cefnogi ymhellach y broses o gyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i gynyddu dynodiadau mewndirol. 

Wrth i ni edrych ymlaen at ddechrau tymor dyfroedd ymdrochi 2025 ar 15 Mai, hoffwn ddiolch i bawb sy'n parhau i gefnogi a hyrwyddo ein huchelgais ar y cyd am ddyfroedd glân, diogel a hygyrch ledled Cymru. Mae'r cynnydd rydyn ni'n ei wneud yn ymdrech ar y cyd, ac rwy'n parhau i deimlo'n galonogol gan yr ymrwymiad a'r cydweithrediad a ddangosir gan gymunedau, partneriaid a rhanddeiliaid fel ei gilydd. Rwy'n dymuno tymor diogel, pleserus a chofiadwy i bawb.