Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n falch o gael cyhoeddi canllawiau statudol sy’n rhoi cyngor ar gefnogi dysgwyr sydd ag anghenion gofal iechyd.

Bydd gan lawer o ddysgwyr anghenion gofal iechyd tymor byr ar ryw adeg, a allai effeithio ar eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol. Efallai y bydd gan ddysgwyr eraill anghenion gofal iechyd sylweddol neu hirdymor sy’n effeithio ar  eu gallu gwybyddol neu gorfforol, eu hymddygiad neu eu cyflwr emosiynol.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod addysg ar gael i bob dysgwr, gan gynnwys y rheini ag anghenion gofal iechyd, y gallant fwynhau’r addysg honno a bod cyfle iddynt gyflawni eu potensial. Bydd y canllawiau statudol rwy’n eu cyhoeddi heddiw yn cefnogi awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i gyflawni eu dyletswyddau o ran dysgwyr ag anghenion gofal iechyd.

Maent yn pwysleisio’r angen i gydweithredu, gan roi’r lle canolog i’r dysgwr ym mhob penderfyniad.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu’r canllawiau.

Maent i’w gweld yn y ddolen ganlynol: http://learning.gov.wales/resources/browse-all/supporting-learners-with-healthcare-needs/?lang=cy