Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mai y llynedd, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwaith a wneir gennym, mewn cydweithrediad ag Arolygiaeth Gofal Cymru, Coram PACEY Cymru ac awdurdodau lleol, i ymateb i'r argymhellion a wnaed yn yr Adolygiad Annibynnol o Warchod Plant. Rwy'n falch o roi diweddariad pellach i chi nawr sy'n tynnu sylw at rai o'r prif gyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf. 

Rydym yn canolbwyntio ar hyrwyddo gwarchod plant fel gyrfa, gan annog a chefnogi gwarchodwyr plant i ymuno ac aros yn y gweithlu, a gwneud y broses o ddod yn warchodwr plant a gweithio fel gwarchodwr mor glir a syml â phosibl.

Mae gwarchod plant wedi cael sylw amlwg yn y rhaglen Llwybrau at Ofal Plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n cael ei rhedeg gan Gofal Cymdeithasol Cymru, gan gynnwys cymorth i gynnig cyfleoedd treialu gwaith.  Mae hyn yn golygu y bydd y rhai sydd â diddordeb mewn gwarchod plant yn gallu gweld yn uniongyrchol ai dyma'r yrfa iddyn nhw, gyda chyfle i gydweithio â gwarchodwr plant profiadol a fydd yn gallu cynnig cymorth ac arweiniad. 

Rwyf hefyd yn falch iawn o roi gwybod i'r aelodau bod gwarchodwr plant ym Mro Morgannwg wedi ennill gwobr nodedig WeCare yn Noson Wobrwyo Gofal Cymdeithasol Cymru 2025, sy'n helpu i ddathlu a chodi proffil gwarchodwyr plant. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu adnodd un stop ar gyfer 'Dod yn Warchodwr Plant'. Bydd hwn yn bwynt canolog i ddarpar warchodwyr plant gael gafael ar wybodaeth am y cyngor, y cymorth a'r cyllid sydd ar gael i gefnogi mynediad i'r gweithlu.

Rydym hefyd yn cefnogi gwarchodwyr plant newydd a phresennol, gan gynnwys drwy'r Rhaglen Hyfforddi a Chymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o hyn, mae awdurdodau lleol yn darparu cyfle i unigolion ymgymryd â'r hyfforddiant cyn-gofrestru angenrheidiol yn ogystal â chefnogi gwarchodwyr plant presennol i gael mynediad at hyfforddiant gorfodol a hyfforddiant ar arferion gorau.  Cynigir hyfforddiant wyneb yn wyneb ac ar-lein i gyd-fynd ag anghenion gwarchodwyr plant.

Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, yn dilyn y newidiadau a wnaed i ganllawiau Dechrau'n Deg, i'w wneud yn glir y gall gwarchodwyr plant gynnig darpariaeth Dechrau'n Deg. Mae data ffurflenni Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth a gwblhawyd gan ddarparwyr gofal plant a chwarae a gofrestrwyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn dangos bod nifer y gwarchodwyr plant sy'n cyflwyno Dechrau'n Deg yng Nghymru eisoes yn dangos cynnydd cyson - o 56 yn 2023 i 107 yn 2024. 

Yn dilyn adolygiad mewnol, gwnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru newidiadau i'r broses ymgeisio ar-lein ar gyfer gwarchod plant er mwyn ei gwneud hi'n haws i ymgeiswyr ei chwblhau ac i sicrhau proses esmwyth. 

Yn ogystal, er mwyn cydnabod sefyllfa unigryw darpariaeth gwarchodwyr plant, mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi sefydlugrŵp hyrwyddwyr gwarchod plant i gefnogi arolygwyr yn eu dull o fynd ati i arolygu gwarchodwyr plant. 

Mae gweithio mewn partneriaeth agos yn golygu ein bod yn gallu ymateb i broblemau posibl sy'n wynebu gwarchodwyr plant wrth iddynt godi. Er enghraifft, fel rhan o'r diweddariad i'r Casgliadau Glasbrint a gyhoeddwyd ar 20 Mehefin 2025, rydym yn annog pob rhan o'r llywodraeth genedlaethol a lleol i weithio gyda'i gilydd i gael gwared ar unrhyw rwystrau neu bryderon sy'n wynebu gwarchodwyr plant fel y gallwn gynnal a thyfu'r rhan hanfodol hon o'r sector.

Rydym yn gwybod bod gwarchodwyr plant yn gwneud cyfraniadau pwysig i fywydau plant a'u teuluoedd. Mae'r gwaith sydd wedi mynd rhagddo ers cyhoeddi'r Adolygiad Annibynnol wedi helpu i dangos gwaith gwarchodwyr plant yn well a phwysleisio'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar y ddarpariaeth a ddarperir ganddynt. 

Bydd y gwaith hwn yn parhau fel ein bod yn parhau i ganolbwyntio'n glir ar y materion sy'n effeithio ar y rhai sy'n dymuno ymuno â'r sector, ac ar gadw gwarchodwyr plant presennol. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto i'r holl bartneriaid sy'n cydweithio â ni i gyflawni'r camau gweithredu hyn i gefnogi gwarchodwyr plant yng Nghymru. 

Byddaf yn monitro'r gwaith hwn yn ofalus ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am hynt y gwaith.