Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y llynedd, fel rhan o'n hymrwymiad i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru, cyhoeddais nifer o gamau i gefnogi pobl sy'n denantiaid mewn tai rhent cymdeithasol. Roedd hyn yn rhan o gytundeb gydag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw y bydd yr ymrwymiadau hynny gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn parhau.

Bydd landlordiaid cymdeithasol yn cefnogi tenantiaid sy'n profi caledi ariannol difrifol o ganlyniad i'r argyfwng costau byw parhaus, gan gynnwys parhau â'r polisi o beidio troi allan oherwydd caledi ariannol pan fo tenantiaid yn ymgysylltu â'u landlordiaid.

Yng Nghymru, mae fforddiadwyedd i denantiaid wrth wraidd ein polisi rhenti cymdeithasol, sy'n gosod codiadau rhent cymdeithasol ar lefel y mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) + 1% yn seiliedig ar ffigur cyhoeddedig mis Medi ar gyfer chwyddiant.  Fodd bynnag, os yw'r mynegai prisiau defnyddwyr yn disgyn y tu allan i'r ystod o 0 - 3% yna rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar uchafswm y codiad rhent cymdeithasol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. 

Adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod chwyddiant y DU yn 6.7% yn y flwyddyn hyd at fis Medi. Golyga hyn fod yn rhaid i mi bennu’r ymgodiad rhent uchaf ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Er bod chwyddiant bellach lawer yn is na’r uchafbwynt o 11.1% a welwyd tua'r adeg hon y llynedd, rwy'n cydnabod na fydd yn teimlo'n 'is' i lawer o bobl ledled Cymru, sy'n parhau i wynebu dewisiadau anodd wrth iddynt geisio gadw dau pen llinyn ynghyd yn wyneb yr argyfwng costau byw.

Dyna pam yr wyf yn cyhoeddi heddiw y bydd uchafswm y cap ar rent cymdeithasol o fis Ebrill 2024 yn cael ei osod ar lefel chwyddiant yn unig.

Nid yw'n ofynnol i unrhyw landlord godi'r uchafswm a gwn y bydd pob landlord yn ystyried fforddiadwyedd yn ofalus ac yn gosod rhenti fel y bo'n briodol ar draws eu stoc dai. 

Mae penderfynu ar y cap ar rent cymdeithasol yn benderfyniad hynod gymhleth ac anodd.

Nid yw'n rhywbeth rwy'n ei gymryd yn ysgafn. 

Mae'n rhaid i unrhyw ymyrraeth ystyried ystod o dystiolaeth a ffactorau eraill, er mwyn cydbwyso'n ofalus iawn anghenion tenantiaid cymdeithasol â rhai'r sector ehangach. 

Rydym yn gwybod y bydd tua thri chwarter y tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru yn talu eu rhent cyfan neu ran ohono drwy daliadau budd-dal gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, maent hwy, ynghyd â'r tenantiaid hynny sy'n talu'r cyfan neu ran o'u rhent eu hunain yn dal i wynebu pwysau oherwydd costau cynyddol bwyd, ynni a nwyddau eraill i'r cartref. 

Mae gallu landlordiaid cymdeithasol i gamu i mewn a chynnig cefnogaeth allweddol yn gwbl allweddol o dan yr amgylchiadau hyn.

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol difrifol.

Dyna pam rwy'n falch ein bod wedi gallu gwneud y mwyaf o'n hymdrechion i gefnogi pobl yn ystod y cyfnod anodd hwn, drwy weithio mewn partneriaeth â landlordiaid cymdeithasol.  Bydd y cyhoeddiad heddiw yn sicrhau y bydd yr ymdrechion hyn yn parhau yn y dyfodol. 

Bydd y setliad rhent ar gyfer 2024-25 yn golygu y gall landlordiaid cymdeithasol barhau i ddarparu gwasanaethau cymorth hanfodol i'w tenantiaid.  Mae hyn yn ychwanegol at yr ystod o wasanaethau cymorth ychwanegol y mae llawer o landlordiaid cymdeithasol eisoes yn eu darparu sy'n cynnwys darparu cymorth ariannol uniongyrchol; cymorth i gael gafael ar ffynonellau cymorth ariannol eraill; a chyngor ac arweiniad. 

Y flwyddyn nesaf yw blwyddyn olaf ein polisi rhenti pum mlynedd. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â landlordiaid cymdeithasol, y sector ehangach a phartneriaid eraill i lywio ein polisi rhenti yn y dyfodol; a datblygu dull cyson o asesu fforddiadwyedd i denantiaid sy'n cydbwyso eu hanghenion â gallu landlordiaid cymdeithasol i gynnal y ddarpariaeth o dai o ansawdd da a darparu gwasanaethau cymorth hanfodol i'w tenantiaid.