Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae polisi Cenedl Noddfa Cymru yn ymwneud â rheoli'n gyfrifol y cyfleoedd a ddaw i Gymru yn sgil mudo, a gwneud y gorau o'r cyfleoedd hynny.  Dros dymor y Senedd hon, mae ein dull gweithredu wedi darparu cefnogaeth gyson, ymarferol i bobl sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac sy'n chwilio am noddfa, gan eu helpu i ailadeiladu eu bywydau a chyfrannu at lesiant Cymru. Dim ond tua 0.05% o gyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at gyflawni dull gweithredu Cenedl Noddfa. Fodd bynnag, mae effaith hynny ar draws trefniadau integreiddio, cydlyniant cymunedol a llesiant pobl yn glir. 

Mae'n bwysig egluro'r hyn y mae'r dull gweithredu Cenedl Noddfa yn ei wneud - a'r hyn nad yw'n ei wneud. Nid yw'n penderfynu pwy sy'n dod i'r DU; Llywodraeth y DU sy'n llwyr gyfrifol am benderfyniadau ynghylch mewnfudo a lloches. Ein rôl yng Nghymru yw siapio profiad pobl ar ôl iddynt gyrraedd, gan sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar wasanaethau prif ffrwd o'r diwrnod cyntaf, yn gallu cael gafael ar wybodaeth gywir, ac yn gallu ailadeiladu eu bywydau ag urddas. 

Rhan greiddiol o'r cymorth cynnar hwn yw atal niwed, gan gynnwys osgoi digartrefedd, a sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y diogelwch a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnynt o'r cychwyn cyntaf.

Oherwydd y ffordd yr awn ati, mae pobl sy'n chwilio am noddfa yn gallu cyfrannu eu sgiliau a chyfrannu at fywyd cymunedol a, phan fo ganddynt yr hawl i weithio, maent yn gallu ymgymryd â chyflogaeth sy'n cryfhau gwasanaethau cyhoeddus Cymru, yn llenwi bylchau hollbwysig yn y gweithlu ac yn cefnogi busnesau lleol. I'r rhai nad ydynt eto wedi cael caniatâd i weithio, mae gwirfoddoli a datblygu sgiliau yn eu galluogi i gyfrannu at eu cymunedau a pharatoi ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol ar ôl iddynt ennill yr hawl i weithio. 

Mae ein profiad yn ystod y pandemig, ac eto yn y pedair blynedd yn dilyn goresgyniad anghyfreithlon a chreulon Putin ar Wcráin, wedi dangos y gallwn sicrhau effeithiau gwirioneddol a chadarnhaol drwy ymateb ar y cyd ac mewn modd tosturiol yn wyneb digwyddiadau byd-eang. Mae hyn wedi helpu pobl sy'n ceisio lloches i chwarae rhan weithredol yng Nghymru – gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi busnesau lleol ac integreiddio i fywyd cymunedol. O gyfanswm ein gwariant Cenedl Noddfa rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2025, mae 91% wedi'i wario ar gefnogi bron i 8,000 o Wcreiniaid sydd wedi dod o hyd i loches yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi gweithio mewn modd adeiladol a thosturiol i gynorthwyo'r rhai sy'n ceisio noddfa. Wrth inni ddathlu Wythnos Elusennau Cymru yr wythnos hon, mae elusennau, sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol yn parhau i fod yn bartneriaid hanfodol wrth gyflawni gweledigaeth Cenedl Noddfa. Mae eu cymorth ystyriol o drawma, eu cyngor arbenigol a'u gwaith ymgysylltu â'r gymuned yn darparu sefydlogrwydd, urddas ac eglurder i bobl sy'n ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru. Er gwaethaf camwybodaeth ddiweddar sydd wedi bod yn targedu mwy a mwy ar y sefydliadau hyn a'r staff rheng flaen sy'n gweithio'n ddiflino i gefnogi pobl agored i niwed, mae eu natur broffesiynol a'u hymrwymiad wedi parhau'n gadarn. Mae eu harbenigedd a'u presenoldeb dibynadwy mewn cymunedau yn hanfodol i sicrhau bod pobl sy'n ceisio noddfa yn teimlo'n ddiogel, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn gallu ymgartrefu yng Nghymru.

Diolch hefyd i bawb sydd wedi ceisio noddfa yng Nghymru am eu hymateb i'r croeso a roddwyd gan deuluoedd, cymunedau, gweithleoedd, awdurdodau lleol ac ysgolion. 

Mae cydnabyddiaeth o'r croeso a roddwyd yng Nghymru wedi'i fynegi mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys drwy ddigwyddiadau diwylliannol, gwyliau ac arddangosfeydd, a hefyd drwy gofleidio'r Gymraeg. Drwy ymdrin ag integreiddio fel Cenedl Noddfa, mae amrywiaeth gyfoethog Cymru wedi'i chyfnerthu.

Gallwn fod yn falch o'n dull "Tîm Cymru" - gan weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, ysgolion, colegau, cymdeithasau tai a'r trydydd sector - i gryfhau cyfleoedd addysg, cyflogaeth, gofal iechyd a gwirfoddoli cymunedol. Rydym yn credu bod atal yn gynnar, gan gynnwys osgoi digartrefedd a diogelu cymorth i blant a phobl ifanc, yn lleihau pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac yn gwella canlyniadau dros amser. Mae hyn yn cynnwys eiriolaeth statudol sefydledig ar gyfer plant ar eu pen eu hunain sy'n ceisio lloches, ynghyd â gwell capasiti gofal maeth i sicrhau cymorth diogel, arbenigol.

Mae ein timau cydlyniant hefyd yn parhau i weithio gyda chymunedau a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru er mwyn atal camwybodaeth, lleihau tensiynau a meithrin dealltwriaeth gyffredin. Gyda'i gilydd, mae'r gwaith hwn yn cefnogi integreiddio cryf ac yn cyfrannu at gymunedau bywiog, hyderus ledled Cymru, lle gall pobl ymgartrefu, teimlo ymdeimlad o berthyn a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas. 

Mae cyflymder y newidiadau i gynlluniau, deddfwriaeth, a phrosesau a pholisïau mewnfudo Llywodraeth y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ochr yn ochr ag ansicrwydd yn sgil digwyddiadau byd-eang, wedi arwain at ddiweddaru ein dull gweithredu a'i angori mewn cyfres glir o egwyddorion i lywio ein penderfyniadau a'n hymatebion. Mae'r egwyddorion hyn yn sail i Gymru lle mae pobl sy'n ceisio lloches yn cael eu cefnogi o'r diwrnod cyntaf drwy ddulliau hirdymor a chydweithredol sy'n gynhwysol ac yn seiliedig ar hawliau dynol mewn perthynas ag atal niwed, hyrwyddo cydraddoldeb, cryfhau cydlyniant cymunedol, a sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn helpu i lunio datrysiadau prif ffrwd effeithiol.

Yn y cyd-destun hwn, rydym wedi galw'n gyson am benderfyniadau cyflymach i fynd i'r afael â'r rhestr o geisiadau lloches sy'n aros am sylw, ac i sicrhau ein bod ni wrth ystyried llety lloches yng Nghymru yn rhoi sylw llawn i'w effaith ar gydlyniant cymunedol, ymgysylltiad ystyrlon â chymunedau lleol, a'r pwysau a'r costau i wasanaethau lleol. Rydym yn parhau i bwyso am system sy'n gyflymach, yn decach ac yn cyd-fynd yn well ag anghenion a diogelwch cymunedau Cymru. 

Mae Cymru fel Cenedl Noddfa yn golygu ein bod yn ystyriol, yn gyfrifol ac yn dosturiol wrth ddelio â'r materion y mae teuluoedd a chymunedau yn eu hwynebu. Bydd Cymru yn parhau i fod yn wlad lle mae pawb, gan gynnwys y rhai sy'n ceisio noddfa, yn cael eu cefnogi ac yn gallu ffynnu.