Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae bod yn Genedl Noddfa yn golygu cefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth a rhyfel ac yn cyrraedd yma i ailadeiladu eu bywydau.
Rydym yn eu helpu i integreiddio i fywyd yng Nghymru a chyfrannu'n gadarnhaol i'n cenedl. Credwn fod yr ymateb tosturiol hwn yn rhoi'r dechrau gorau posibl i bobl sy'n chwilio am noddfa ac yn helpu gwasanaethau a chymunedau lleol hefyd.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu faint o’r bobl sy'n ceisio lloches yn y DU sy'n cael eu lleoli yng Nghymru – nac yn penderfynu pwy sy'n cael eu lleoli yng Nghymru. Mae hwn bob amser wedi bod yn benderfyniad i Lywodraeth y DU yn unig. Bydd Cymru yn parhau i groesawu cyfran gymesur o'r ceiswyr noddfa sy'n cyrraedd y DU – hyd at 5% o'r holl bobl sy'n cyrraedd.
Roedd costau cyffredinol y polisi Cenedl Noddfa yn oddeutu £54,880,000 sy'n cynrychioli llai na 0.05% o gyllideb Llywodraeth Cymru dros y chwe blynedd, rhwng 2019 a 2025, ers mabwysiadu'r Cynllun Cenedl Noddfa.
Mae Llywodraeth Cymru yn falch o'n cyfraniad i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin mewn ymateb i oresgyniad anghyfreithlon a chreulon Putin ar eu gwlad. Ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Mawrth 2025, gwariwyd £45,475,000 o dan bolisi Cenedl Noddfa i gefnogi pobl o Wcráin a gyrhaeddodd Cymru. O fewn y gwariant hwnnw, roedd 82% o'r costau i gefnogi pobl o Wcráin rhwng 2022-2024, a gafodd cefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd.
Yn 2016, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ac argymhellodd fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wneud Cymru'n Genedl Noddfa. O ganlyniad uniongyrchol i'r ymchwiliad hwnnw, gwnaethom gyhoeddi Cynllun Cenedl Noddfa yn 2019, a ddiweddarwyd wedyn fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol (2024).
Caiff y nodau a'r camau gweithredu yn y bennod Cenedl Noddfa eu llywodraethu a'u dal yn atebol o dan strwythur llywodraethu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, yn ogystal â'r Bwrdd Goruchwylio Strategol Cenedl Noddfa yr wyf yn ei gyd-gadeirio gyda Llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol.
Rwy'n annog aelodau i ddarllen y nodau a'r camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yr ydym yn eu cyflawni yn nhymor y Senedd hon i'n symud tuag at Genedl Noddfa. Mae'r rhain yn nodi sut rydym ni, ynghyd â'n partneriaid, yn anelu at ddarparu cymorth mewn nifer o feysydd sy'n cefnogi integreiddio mudwyr a chydlyniant cymunedol. Er enghraifft, un o'r camau gweithredu yw parhau â Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru (WARD) sy'n sicrhau y gall meddygon ac ymgynghorwyr sy'n cyrraedd Cymru barhau i ymarfer yn y GIG.
Rwy'n falch o'n gweledigaeth o Gymru fel Cenedl Noddfa, ac yn falch o'r ffordd rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd, partneriaid y trydydd sector a chymunedau i wireddu'r weledigaeth hon ledled Cymru. Rwyf hefyd yn falch o'n cymunedau, trefi, dinasoedd, ysgolion a phrifysgolion niferus sy'n dymuno dod yn fannau o noddfa a chroeso i'r rhai sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Ar adeg o ansefydlogrwydd byd-eang ac argyfyngau dyngarol, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cynnal ein gwerthoedd o dosturi, croeso a chymuned.
