Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynlluniau strategol ar gyfer trawsnewid mynediad i ofal brys a gofal mewn argyfwng, a'n disgwyliadau o ran Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Yn unol ag ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar atal, integreiddio a mynediad, rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn y lle iawn, y tro cyntaf.

Mae'r pandemig wedi cael effaith ddofn ar gymdeithas ac ar y GIG yng Nghymru. Bydd COVID-19 gyda ni am beth amser i ddod, felly mae'n rhaid i ni ddysgu byw a gweithio ochr yn ochr ag ef hyd y gellir rhagweld. Mae'r pandemig hefyd wedi arwain at gyfleoedd i wella'r ffordd rydym yn gweithio, gyda mwy o ddefnydd o dechnoleg a chydweithredu cryfach.

Rydym am i'r system adeiladu ar y datblygiadau hyn a galluogi pobl ag anghenion gofal brys neu ofal mewn argyfwng i gael y driniaeth gywir ar yr adeg gywir, yn y lle iawn. Gallai hyn fod drwy fferyllfa gymunedol; ymgynghoriad fideo â meddyg teulu – model sydd wedi profi'n effeithiol ac a fydd yn cael ei wella / ei fabwysiadu ymhellach; cael mynediad i uned mân anafiadau; gwefan GIG 111 Cymru ar gyfer gwirwyr symptomau a chyngor ar-lein; neu ddeialu 111 am gyngor dros y ffôn. Rydym yn gofyn i bobl sy'n credu bod ganddynt angen gofal brys i'n helpu ni, i’ch helpu chi drwy feddwl am ddefnyddio’r gwasanaethau hyn cyn mynd i Adran Achosion Brys neu ddeialu 999.

Rydym wedi datblygu 'chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng’ fel disgwyliadau ar gyfer y system iechyd a gofal cymdeithasol, ac i alluogi cyflawni ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu. Dylai cyflawni pob un o'r 'chwe nod' yn gyson ac yn ddibynadwy drwy gydweithio system gyfan rhwng Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, a phartneriaid ar draws gwasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector, alluogi'r profiad gorau posibl i gleifion a staff, a gwell canlyniadau clinigol a gwerth.

6 nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng:

  1. Cydgysylltu, cynllunio a chymorth ar gyfer grwpiau sydd â risg uwch o fod angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng
  2. Cyfeirio at y lle iawn y tro cyntaf
  3. Dewisiadau eraill sy’n ddiogel yn glinigol yn lle mynd i’r ysbyty
  4. Ymateb cyflym os oes argyfwng corfforol neu argyfwng iechyd meddwl
  5. Rhoi’r gofal gorau posibl i’r claf ar ôl ei dderbyn i’r ysbyty
  6. Dull ‘gartref yn gyntaf’ a lleihau’r risg o orfod mynd yn ôl i’r ysbyty

Byddwn yn cyhoeddi llawlyfr polisi 'chwe nod' yn y tymor newydd a fydd yn cynnwys datganiadau ansawdd sy’n cyd-fynd â phob un o'r 'chwe nod’. Bydd y datganiadau ansawdd yn disgrifio'n fanwl y canlyniadau a'r safonau y dylai unigolion eu disgwyl pan fydd arnynt angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng.

Bydd hyn yn cynnwys disgwyliad gan Fyrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i roi mwy o bwyslais ar gefnogi byw'n annibynnol a lles er mwyn atal uwchgyfeirio i ofal sylfaenol brys, ambiwlans, Adran Achosion Brys a gwasanaethau ysbyty.

Bydd hefyd yn disgrifio sut y byddwn yn galluogi cyflawni'r chwe nod drwy raglenni cenedlaethol wedi'u targedu, cyllid ychwanegol, a galluogwyr fel newid digidol; hyfforddi a datblygu'r gweithlu; mesur ar gyfer gwella; a newid ymddygiad, cyfathrebu a marchnata.

Bydd £25m o gyllid cenedlaethol cylchol yn helpu Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG i gyflawni'r 'chwe nod’. Bydd rhywfaint o'r arian ychwanegol hwn yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu tri model gofal ochr yn ochr ag ystod o gamau gweithredu eraill:

  • Model 'Meddwl 111 yn Gyntaf’ cenedlaethol - i gyfeirio drwy 111 bobl sy'n credu bod angen iddynt gael mynediad at wasanaethau gofal brys neu ofal mewn argyfwng i'r lle iawn, y tro cyntaf. Bydd hyn yn cynnwys darpariaeth ar-lein well, ceisio rheoli'r galw yn well yn y gymuned neu drefnu slotiau amser i bobl yn y lle gorau ar gyfer eu hanghenion.
  • ‘Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys' – i asesu neu drin pobl ag anghenion gofal sylfaenol brys yn ddiogel, yn gyflym ac yn effeithiol heb fod angen apwyntiad neu fynd i Adran Achosion Brys, gan alluogi staff yn y gwasanaethau hynny i ganolbwyntio ar bobl ag anghenion gofal cymhleth neu frys yn y drefn honno; a
  • Gwasanaethau 'Gofal Brys ar yr Un Diwrnod' i gefnogi pobl sydd angen asesiad wyneb yn wyneb, diagnosteg a / neu driniaeth i ddychwelyd adref ar yr un diwrnod lle mae'n glinigol ddiogel gwneud hynny.

Dylai darparu'r modelau hyn yn ddibynadwy a darparu gofal diogel yn y lle iawn, y tro cyntaf, helpu i leihau'r pwysau ar staff y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol a'r Adran Achosion Brys. O ystyried heriau parhaus y pandemig a'r posibilrwydd o aeaf anodd, dylai Byrddau Iechyd ystyried hyn yn flaenoriaeth.

Bydd yr arian hwn yn ategu’r cyllid o £6m a neilltuwyd ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn 2021/2022 i ddarparu model ‘rhyddhau i adfer’ yn gyson ac yna asesu llwybrau fel rhan o ddull gweithredu ‘Gartref yn Gyntaf’ er mwyn sicrhau'r canlyniadau a'r profiad gorau posibl i bobl sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty ac y mae arnynt angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar ôl iddynt ddychwelyd i'w cymunedau lleol. Dylai darparu'r llwybrau hyn yn gyson ac yn ddibynadwy cyn ac yn ystod cyfnod y gaeaf fod yn flaenoriaeth i’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Byddwn hefyd yn sefydlu rhaglen genedlaethol newydd yn y portffolio gofal brys a gofal mewn argyfwng i gefnogi Byrddau Iechyd a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i gyflawni 'nodau pump a chwech’. Mae'r nodau hyn yn canolbwyntio ar roi’r gofal gorau posibl i’r claf o'r adeg y caiff ei dderbyn i’r ysbyty a galluogi pobl i ddychwelyd adref o'r ysbyty pan fyddant yn barod. Byddwn yn ceisio dysgu gwersi o'n dull gweithredu llwyddiannus ar gyfer cyflwyno brechiadau COVID-19 er mwyn sicrhau darpariaeth gyson mewn rhaglen a arweinir gan Uned Gyflawni GIG Cymru mewn cydweithrediad â phartneriaid.

O ystyried y pwysau parhaus a chynyddol ar y system gofal brys a gofal mewn argyfwng a'r risg gysylltiedig o niwed i gleifion a staff, mae'n hanfodol bod Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau'r GIG a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn blaenoriaethu ac yn cyflymu'r broses o gyflawni'r 'chwe nod' a'r camau gweithredu allweddol rwyf wedi'u disgrifio.

Mae'n hanfodol bod pob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gwneud cynnydd cyflym ar y cyd dros gyfnod yr haf. Bydd hyn o fudd i'r system iechyd a gofal cymdeithasol ac ansawdd y gofal a ddarperir wrth i ni nesáu at y gaeaf. 

Byddaf yn rhoi diweddariad i’r Aelodau ar gynnydd y gwaith hwn a'n dull gweithredu ehangach ar gyfer y gaeaf yn dilyn toriad yr haf.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.