Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid
Ddoe, fe wnes i annerch Chweched Fforwm Cydlyniant yr Undeb Ewropeaidd ym Mrwsel ynghylch pwysigrwydd cyllid yr UE i Gymru a hefyd pa mor bwysig yw bod y DU a Chymru yn parhau’n aelodau o'r UE.
Roedd Gweinidogion ac arweinwyr o lywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a sefydliadau’r UE yn bresennol yn y Fforwm, a buont yn trafod y cyfraniad pwysig y mae Polisi Cydlyniant yr UE (prif bolisi buddsoddi’r UE) yn ei wneud i gyrraedd nodau Ewrop 2020 drwy greu swyddi a lleihau gwahaniaethau rhwng rhanbarthau ar draws yr UE.
Mae Cymru wedi elwa'n fawr ar Gronfeydd Strwythurol er 2000, a dros y cyfnod hwn, mae datblygiadau mawr wedi cael eu gwneud o ran ad-drefnu strwythurol ac ateb yr heriau cymdeithasol sy'n cyd-fynd â newid economaidd strwythurol. Mae'r rownd o raglenni 2007-2013 eisoes wedi ein helpu i greu dros 9,000 o fentrau a 28,000 o swyddi, ac wedi helpu bron 61,000 o bobl i gael gwaith a dros 180,000 i ennill cymwysterau.
Mae'r Chweched Adroddiad Cydlyniant ar Gydlyniant Economaidd, Cymdeithasol a Thiriogaethol hefyd yn amlinellu sut y bydd buddsoddiadau'r UE yn y dyfodol yn canolbwyntio ar feysydd allweddol fel ymchwil ac arloesi, arbed ynni, sgiliau a chyflogaeth a chynhwysiant cymdeithasol er budd busnesau a dinasyddion ar draws Ewrop.
Yng Nghymru, mae trafodaethau gyda'r Comisiwn Ewropeaidd am raglenni newydd y Cronfeydd Strwythurol yn 2014-2020 yn mynd rhagddynt yn dda. Bydd y rhaglenni newydd yn gwneud defnydd llawn o’r egwyddorion o grynhoi, integreiddio a symleiddio. Byddant hefyd yn canolbwyntio ar ganlyniadau, sicrhau'r effaith fwyaf a chreu gwaddol barhaus o'r buddsoddiad o gronfeydd yr UE. Rwy'n gobeithio y bydd y Comisiwn yn cytuno ar y rhaglenni erbyn diwedd mis Hydref, ar ôl cytuno ar Gytundeb Partneriaeth y DU, a byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau.
Yn ystod fy ymweliad dau ddiwrnod â Brwsel, fe wnes i cwrdd â Gweinidog Ewropeaidd Ffrainc, Gweinidog Cyllid Lithwania, nifer o Gyfarwyddwyr Cyffredinol y Comisiwn ag Aelodau Senedd Ewrop o Gymru i drafod y datblygiadau a'r cyfleoedd sydd ar gael drwy gyllid yr UE a phwysigrwydd buddsoddiadau strwythurol ar ôl 2020. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai'r cyllid hwn fod ar gael i ranbarthau tlotaf yr UE, waeth beth yw GDP y pen eu Haelod-wladwriaethau.
Mae copi llawn o'r Chweched Adroddiad Cydlynol ar gael drwy'r ddolen ganlynol: http://ec.europa.eu/regional_policy/sources/docoffic/official/reports/cohesion6/index_en.cfm
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y gwyliau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.