Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart AC CStJ MBE, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf wedi derbyn adroddiad gan Weithgor Cludo Nwyddau Cymru.
Diben y grŵp yw adeiladu ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gludo Nwyddau o ran rhoi cyngor ac argymhellion i gynyddu twf a gallu marchnadoedd cludo nwyddau yng Nghymru, gan gynnwys eu cadwyni cyflenwi cysylltiedig. 
Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Grŵp, Brian Curtis, ac i'r aelodau i gyd am eu harbenigedd a'u mewnbwn. 
Mae'r adroddiad, sy'n cynnwys argymhellion cysylltiedig, yn nodi'n glir yr angen am rwydwaith trafnidiaeth ryngfoddol yng Nghymru sydd wedi'i integreiddio'n dda ac sy'n gwbl abl i symud nwyddau'n effeithiol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Rwyf yn cymeradwyo'r argymhellion, ac mae camau'n cael eu cymryd i gyflawni nifer ohonynt eisoes. 
Un o'r argymhellion allweddol yw'r angen i ledu Twnnel Hafren fel bod modd cludo cynwysyddion nwyddau rhyngfoddol mawr yn effeithlon i Gymru - un o'r marchnadoedd twf allweddol ar gyfer cludo nwyddau. Rwyf wedi gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU ac i Network Rail ar y mater hwn, a bellach rwyf wedi cael cadarnhad y bydd y gwaith lledu'n mynd rhagddo ar yr un pryd â'r gwaith i drydaneiddio'r twnnel. 
Gan edrych i'r dyfodol, bydd yn bwysig parhau i ystyried anghenion cludo nwyddau ar sail integredig, Cymru Gyfan, a hynny'n unol â nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chan sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd datblygu cynaliadwy a nodir.