Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Ymgynghorais ar y Cod Ymarfer drafft ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon, a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig a fydd yn disodli'r canllawiau statudol presennol ‘Uwchgyfeirio pryderon ynghylch cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaethau i oedolion a chau’r cartrefi hynny’ a gyhoeddwyd yn 2009. Mae'r cod drafft yn nodi gofynion cenedlaethol ac yn cynnwys gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau yn ogystal â strwythurau, prosesau a chamau gweithredu a argymhellir i gefnogi arferion comisiynu lleol.
Rwy'n cyhoeddi canlyniad yr ymgynghoriad yma heddiw: Cod ymarfer ar ansawdd, pryderon a chau gwasanaethau gofal a chymorth | LLYW.CYMRU
