Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 23 Medi 2019, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau ar y cynnydd yr ydym yn ei wneud wrth gyflawni gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth ledled Cymru. Ers hynny, mae pob un ohonom wedi gweld effaith y pandemig COVID-19. Ym mis Ebrill eleni, roeddwn wedi bwriadu lansio ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Statudol drafft ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, fodd bynnag, roedd rhaid gwneud llawer o benderfyniadau anodd yn sgil yr argyfwng ac roedd hyn yn cynnwys gohirio’r ymgynghoriad am gyfnod byr.

Rwy’n falch o gyhoeddi y byddwn heddiw yn cyhoeddi’r Cod Ymarfer Statudol drafft ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a dogfen ganllaw gysylltiedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a fydd yn para 12 wythnos hyd 7 Rhagfyr. Rwy’n annog aelodau i gymryd amser i edrych ar y dogfennau arfaethedig ac ymateb iddynt: Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth.

I lywio’r gwaith o lunio’r Cod, cynhaliwyd dau gylch o gyfarfodydd grŵp technegol i roi cyfle i amrywiaeth eang o randdeiliaid allweddol, gan gynnwys pobl awtistig, gael mynegi eu barn am y blaenoriaethau a’r camau gweithredu yn y Cod. Roeddwn yn falch o rannu drafft gweithredol o’r Cod gyda'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ddiwedd y llynedd, fel yr addewais y byddwn yn ei wneud.

Gwneir y Cod drafft o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf GIG (Cymru) 2006. Cod ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion ydyw ac mae pedair prif bennod ynddo, sef asesu a diagnosis, cael gafael ar ofal a chefnogaeth, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant a chynllunio, monitro ac ymgysylltu â rhanddeiliaid. Bydd y canllawiau yn darparu eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i wasanaethau statudol ei ystyried wrth fodloni anghenion pobl awtistig a’u gofalwyr.

Mae cydweithio yn rhan ganolog o’n rhaglen gwella awtistiaeth. Ym mis Tachwedd y llynedd, cynhaliwyd dau ddigwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd, y naill yn Llandudno a’r llall yng Nghaerfyrddin. Darparodd y digwyddiadau hyn gyfle gwych i ymgysylltu’n uniongyrchol, yn arbennig gyda theuluoedd a rhieni yn ogystal ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig ac addysg. Roedd cynrychiolaeth gref o grwpiau o rieni a theuluoedd lleol yn y digwyddiad yn Llandudno yn arbennig. Dychwelodd fy swyddogion i’r Gogledd yn gynharach eleni i dreulio tri diwrnod yn cwrdd â grwpiau o rieni a theuluoedd i drafod eu profiadau ac i geisio eu barn ar ble y dylid gwneud gwelliannau i wasanaethau. Cyn y cyfyngiadau, llwyddais hefyd i gwrdd â Grŵp Cymdeithas Awtistig Cenedlaethol Blaenau Gwent ynghyd â fy nghydweithiwr, yr Aelod o’r Senedd dros Flaenau Gwent.   

Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol parhaus yn golygu na fyddwn yn gallu cynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus yn yr un ffordd ag yr ydym wedi ei wneud yn y gorffennol. Rydym yn ystyried sut y gall technoleg ein helpu i sicrhau bod pawb yn gallu rhannu eu barn am y Cod drafft. Bydd hyn yn cynnwys trefnu gweminarau a chyfarfodydd ar-lein i alluogi ymgysylltu o bell. Bydd manylion y digwyddiadau hyn yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Yn ei ddatganiad deddfwriaethol ym mis Gorffennaf, dywedodd y Prif Weinidog fod yr argyfwng coronafeirws wedi ei gwneud yn angenrheidiol inni ail-lunio ein rhaglen is-ddeddfwriaeth mewn modd radical a bod blaenoriaeth wedi’i roi i fesurau sy’n ymateb i’r argyfwng COVID-19, yn ymwneud ag ymadael â’r UE a’r cyfnod pontio, neu sy’n hanfodol am resymau cyfreithiol neu resymau eraill na ellir eu hosgoi. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymateb i’r ymgynghoriad ym mis Ionawr 2021 cyn inni droi at gwblhau’r Cod Statudol. Roeddem wedi ymrwymo i gyhoeddi’r Cod y tymor hwn, fodd bynnag, oherwydd effaith yr argyfwng coronafeirws, efallai na fydd yn bosibl gosod y Cod tan ddechrau tymor nesaf y Senedd.  Yn dilyn cyfnod rhagarweiniol, gan gynnwys sesiynau ymgyfarwyddo, rydym yn dal i anelu at ddechrau gweithredu’r Cod ym mis Medi 2021, gan sefydlu grŵp cynghori ar awtistiaeth newydd i lunio cynllun gweithredu.

Rydym hefyd yn gwrando ar argymhellion a wnaed mewn gwerthusiad diweddar i ystyried cynaliadwyedd gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol. Bydd adolygiad galw a chapasiti o wasanaethau niwroddatblygiadol, a ddechreuwyd cyn y cyfyngiadau yn sgil COVID-19, yn ailddechrau a bydd rhagor o waith yn cael ei gomisiynu i ddatblygu opsiynau ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Rwyf hefyd eisiau ailgadarnhau’r ymrwymiad a wnes yn fy natganiad ysgrifenedig diwethaf ar 23 Medi 2019 i sicrhau cyllid cylchol ar gyfer gwasanaethau awtistiaeth. Bydd cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn parhau yn 2021-2022, drwy'r Gronfa Gofal Integredig sy’n cael ei oruchwylio gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae hyn yn pwysleisio natur integredig y gwaith a’r cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a phartneriaid eraill. Bydd cyllid ar gael am flwyddyn arall i roi mwy o amser i’r adolygiad galw a chapasiti gael ei gwblhau ac i wneud penderfyniadau am gyllid yn y dyfodol.

Nid ydym yn sefyll yn llonydd wrth i’r adolygiad o’r gwasanaeth fynd rhagddo. Gan gydnabod bod angen rhagor o gapasiti ar frys, rydym wedi cyhoeddi dau brosiect drwy’r Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a fydd yn cynyddu capasiti ac yn denu arbenigedd newydd i wasanaethau awtistiaeth presennol. Dechreuodd y prosiectau hyn, sy’n cael eu cyflawni gan y Gymdeithas Awtistiaeth Cenedlaethol ac Autism Connections Cymru, ym mis Ebrill 2020 ac mae cyllid ar gael am dair blynedd. Rydym wedi sefydlu bwrdd prosiect cydweithredol i annog cydweithio ar draws yr holl wasanaethau, yn y sector statudol a’r trydydd sector. Bydd effaith y gwasanaethau ychwanegol hyn yn cael ei hystyried yn yr adolygiad galw a chapasiti.

Mae ein Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol hefyd wedi parhau i gefnogi pobl awtistig. Mae wedi diweddaru ei wefan adnoddau a bydd yn ei ail-lansio yn fuan. Yn ystod y pandemig, mae’r tîm wedi gweithio gyda phartneriaid i roi cyngor ynglŷn â rheolau’r cyfyngiadau a llunio canllawiau i helpu pobl awtistig i ymdopi ag effeithiau COVID-19 ar eu bywydau bob dydd. Bydd hyn yn parhau wrth inni helpu pobl awtistig i ymgysylltu â’r byd ar ôl COVID-19.