Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy natganiad ar 26 Ebrill, bydd y gwaharddiad dros dro ar grynhoi rhai rhywogaethau o adar yng Nghymru yn cael ei godi o Fai 15.

Bydd y gwaharddiad dros dro yn cael ei godi ar yr amod na fydd unrhyw achosion eraill o ffliw’r adar pathogenig iawn H5N8 mewn dofednod neu adar caeth eraill nac unrhyw achosion yn cael eu canfod mewn adar gwyllt.

Rwyf wedi gwneud y penderfyniad hwn ar sail tystiolaeth diweddaraf sydd wedi ei seilio yn ei dro ar Asesiad Risg Ansoddol, a oedd wedi ystyried y risg y gallai Ffliw Adar H5N8 gyrraedd ffermydd dofednod o ganlyniad, yn bennaf, i gysylltiad ag adar dŵr, ond hefyd drwy ffyrdd posibl eraill.  

Daeth yr asesiad diweddaraf i’r casgliad y dylai’r risg gael ei hasesu’n isel (sef “prin, ond yn gallu digwydd o bryd i’w gilydd”). Mae’r risg gyffredinol yn cael ei phennu yn ôl pa mor debygol yw hi y bydd y firws yn parhau mewn adar gwyllt a’r amgylchedd ac yn ôl pa mor debygol yw hi y byddant yn dod i gysylltiad â dofednod.

Gan fod adar gwyllt mudol bellach yn gadael Prydain a bod tymor bridio adar dŵr gwyllt yn dechrau, barn arbenigol adaregwyr yw bod llai o risg i ddofednod. Bydd haint amgylcheddol yn lleihau, yn enwedig yn ystod tywydd cynhesach sych pan fo lefelau UV yn uwch. Felly, mae’r risg i ddofednod yn isel, gan fod adar dŵr yn llai heidiol wrth i’w tymor bridio ddechrau a chan fod llai o bosibilrwydd i adar gael eu heintio’n amgylcheddol.      

Mae’r risg gyffredinol sy’n gysylltiedig â chrynoadau hefyd yn llai, ar yr amod bod lefelau uchel o fioddiogelwch yn y crynhoad, drwy sicrhau nad yw rhywogaethau yn cymysgu â’i gilydd a bod gwaith glanhau a diheintio yn cael ei wneud.  

Ar yr amod na fydd rhagor o achosion o’r clefyd, bydd y drwydded gyffredinol bresennol yn cael ei dirymu a bydd trwydded gyffredinol newydd, a fydd yn caniatáu pob math o grynoadau adar, yn cymryd ei lle ar 15 Mai.

Mae’n hanfodol bod pawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill yn parhau i gadw llygad am unrhyw arwyddion o’r clefyd ac yn parhau hefyd i arfer bioddiogelwch ardderchog.