Neidio i'r prif gynnwy

Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod mis Medi a mis Hydref, teithiodd tri gweinidog i Ffrainc i gefnogi gweithgareddau hyrwyddo wrth i gemau grwpiau Cwpan Rygbi'r Byd gael eu cynnal. Roedd yr ymweliadau hyn yn rhan allweddol o raglen Cymru yn Ffrainc 2023 sy'n dathlu'r berthynas rhwng ein dwy wlad.

Yn gyntaf, teithiodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth i Baris a Bordeaux rhwng 8 a 10 Medi i rannu profiadau a gwersi sydd wedi'u dysgu ar draws y portffolio chwaraeon, diwylliant, twristiaeth a threftadaeth.

Ymweliad cyntaf y Dirprwy Weinidog oedd â'r Ganolfan Campau Dŵr newydd sy'n cael ei datblygu cyn Gemau Olympaidd Paris y flwyddyn nesaf. Wedi hynny, cafodd gyfarfod â'r Dirprwy Faer Chwaraeon, y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd a Digwyddiadau Mawr i drafod cyfleoedd a gwaddol Cwpan Rygbi'r Byd a Gemau Olympaidd Paris 2024 i'r ardal.

Yn y prynhawn, siaradodd y Dirprwy Weinidog yn nigwyddiad lansio Tackle HIV ochr yn ochr â Gareth Thomas, cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru a'r Llewod, gan fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at Gynllun Gweithredu HIV Llywodraeth Cymru. Ar ôl hynny, teithiodd i ymuno â chyfarfod yn Musée D'Orsay i drafod eu llwyddiant o ran adfer twristiaeth wedi'r pandemig. Trafodwyd hefyd y cynllun cyfnewid celf uchel ei broffil gydag Amgueddfa Cymru yn y gwanwyn. Daeth y diwrnod i ben drwy fynd i'r seremoni agoriadol a gwylio gêm Ffrainc yn erbyn Seland Newydd yn Stade de France.

Wedyn, teithiodd y Dirprwy Weinidog i Bordeaux i ymweld â Cité du Vin gydag Arlywydd Fiji a Dirprwy Lysgennad Iwerddon. Wedi hynny, aeth y Dirprwy Weinidog i Chateau d'Arsac i gyfarfod â Dirprwy Feiri Bordeaux ar Dwristiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ac arweinwyr o ddiwydiant gwin Bordeaux. Daeth y diwrnod i ben gan wylio buddugoliaeth Cymru dros Fiji. Roedd y gêm hefyd yn gyfle cynnar i feithrin cysylltiadau â Chadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol newydd Undeb Rygbi Cymru.

Rhwng 24 a 26 Medi a chyn gêm Cymru yn erbyn Awstralia, teithiodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i Lyon i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau i hyrwyddo diwylliant Cymru ac arddangos bwyd a diod o Gymru.

Mae cysylltiadau diwylliannol yn ganolog i'r rhaglen Cymru yn Ffrainc 2023. Cafodd y Gweinidog gyfle i fwynhau'r gweithgareddau hyn wrth iddi ymweld â Phentref Rygbi Lyon a mynd i arddangosfa Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a oedd yn dangos yr ystod amrywiol o ddoniau diwylliannol sydd gennym yng Nghymru.

Gwyliodd y Gweinidog y gêm yn erbyn Awstralia yng nghwmni llywyddion World Rugby a Chwpan Rygbi'r Byd Ffrainc 2023. Cafodd y Gweinidog gyfle hefyd i gyfarfod ag Anika Wells, Gweinidog Chwaraeon Awstralia, i dynnu sylw at y ffordd y mae Cymru'n defnyddio chwaraeon yn ysgogiad i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol ystyrlon. O ran y berthynas economaidd â Ffrainc, cafodd y Gweinidog gyfarfod â Phrif Swyddog Gweithredol Boccard, y cwmni sydd wedi agor ei safle cyntaf yn y DU ym Mrychdyn yn ddiweddar. Roedd hwn yn gyfle i ailddatgan ein croeso ac ailgadarnhau'r cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i gwmnïau sy'n chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi yng Nghymru.

Un o uchafbwyntiau'r ymweliad oedd arddangosfa bwyd a diod a gynhaliwyd gan y Gweinidog ar y cyd â Hybu Cig Cymru, Arloesi Bwyd Cymru a chwmnïau bwyd a diod o Gymru. Yn ddiweddar, cafodd Ffrainc ei henwi yn gyrchfan allforio pwysicaf Cymru o ran bwyd a diod, felly roedd hwn yn gyfle i gyfuno'r bwyd, y sgiliau coginio a'r doniau diwylliannol gorau o Gymru, a hynny yng nghartref gastronomeg Ffrengig, sef y Cité Internationale de la Gastronomie yn Lyon.

Ymweliad olaf ar raglen y Gweinidog oedd mynd gydag Urdd Gobaith Cymru i L'école de la Deuxième Chance, sef ysgol sy'n rhoi ail gyfle i bobl ifanc sydd wedi rhoi'r gorau i addysg gan eu helpu i ddod o hyd i waith. Roedd yr ymweliad hwn yn gyfle gwych i hyrwyddo ein gwaith o ran y Gymraeg yn ogystal â thrafod y cyfleoedd gwaith a hyfforddiant rydym yn eu darparu yng Nghymru drwy'r cynllun Gwarant i Bobl Ifanc.

Ar 5 Hydref, teithiais i Baris a Nantes ar gyfer rhaglen ddeuddydd o hyd cyn gorffen â gêm grŵp olaf Cymru yn erbyn Georgia. Wedi imi gyrraedd Paris, mynychais dderbyniad yn Llysgenhadaeth Prydain, a gynhaliwyd gan Lysgennad Prydain, i nodi Cwpan Rygbi'r Byd. Roedd llywyddion World Rugby ac Undeb Rygbi Cymru hefyd yn bresennol.

Drannoeth, teithiais i Nantes a chael croeso gan Is-lywydd Nantes Métropole yn Ysgol Gynradd Louise Michel. Roeddwn i yno gyda'r Urdd wrth iddynt arwain y rhaglen 'Chwarae yn Gymraeg'. Dyma raglen sy'n cyflwyno'r Gymraeg a diwylliant Cymru i blant drwy chwarae a gweithgareddau. Mae meithrin cysylltiadau â phobl ifanc a chodi proffil y Gymraeg yn ddau o amcanion craidd Cymru yn Ffrainc 2023. Mae wedi bod yn bleser gweld y Gymraeg yn cael ei defnyddio yn Ffrainc drwy gydol y flwyddyn, ond yn arbennig yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.

Yn y prynhawn, cefais gyfarfod ag Airbus i drafod eu gweithrediadau yng Nghymru ac i ddeall rhagor am eu gwaith ar ddatgarboneiddio a thechnoleg lân yn y dyfodol. Yn ddiweddarach yn y prynhawn, cynhaliais dderbyniad i tua 150 o randdeiliaid yn Maison de l'Europe sef canolfan i alluogi cydweithio rhwng Nantes ac Ewrop. Defnyddiwyd y ganolfan hon yn ganolbwynt ar gyfer Cymru hefyd, gan gynnal gwersi Cymraeg ac 'arddangosfa Gymreig' o ddeunyddiau brandio Croeso Cymru.  

Gyda'r nos, cefais gyfle i wrando ar berfformiad Côr y Gleision gyda chôr o Nantes sef Schola Cantorum de Nantes yn eglwys Notre-Dame de Bon Port.

Daeth y noson i ben gydag ymweliad byr â safle'r cefnogwyr yn y Pentref Rygbi i wylio gêm Ffrainc yn erbyn yr Eidal yng nghwmni cynrychiolwyr eraill o Japan a Georgia.

Ar fy niwrnod olaf, ymwelais ag Ysgol Beirianneg Centrale Nantes ar y cyd â chynrychiolwyr o Borthladd Aberdaugleddau, RenewableUK Cymru a'r Adran Busnes a Masnach. Ymweliad dysgu a datblygu gyda swyddogion cyfatebol yn Ffrainc oedd hwn i drafod cyfleoedd i gydweithio yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr, yn arbennig y cyfle economaidd enfawr o ran cynhyrchu gwynt drwy ddulliau arnofiol ar y môr. Mae'r ymweliad hwn wedi tanio trafodaeth werthfawr ynghylch cydweithio ar gadwyn gyflenwi Ynni Adnewyddadwy Morol. Disgwylir yn awr i gynrychiolwyr o Ffrainc fod yn bresennol mewn digwyddiadau yng Nghymru megis Dyfodol Ynni Cymru ac Ynni Morol Cymru, gyda dirprwyaeth bosibl o Gymru i fod yn bresennol yn Seanergy yn Nantes ym mis Mehefin.

Fy nigwyddiad olaf oedd gwylio gêm grŵp olaf Cymru yn erbyn Georgia yn Stade de la Beaujoire yng nghwmni Llywydd Cyngor Rhanbarthol Pays de la Loire, Is-lywydd Cyngor Rhanbarthol Llydaw, Maer Nantes, cynrychiolwyr Cwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc, World Rugby a llywydd Undeb Rygbi Cymru.

Gyda'i gilydd, sicrhaodd y tair rhaglen weinidogol lwyfan anhygoel i hyrwyddo'r Gymraeg a bwyd a diwylliant Cymru, yn ogystal ag atgyfnerthu cysylltiadau pwysig â'n partneriaid economaidd a gwleidyddol.