Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn fy natganiadau ysgrifenedig diwethaf ar 8 a 9 Chwefror 2023, dyma roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau yn dilyn canlyniad pleidleisiau’r Undebau Llafur.

Mae Llywodraeth Cymru a'r Undebau Llafur wedi cyfarfod heddiw, ac mae'r Undebau Llafur fel Fforwm Partneriaeth Cymru wedi derbyn ar y cyd, o drwch blewyn, y codiad cyflog a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23.

Er ein bod yn falch bod y cynnig wedi cael ei dderbyn, rydym yn cydnabod cryfder y teimladau ymhlith yr aelodau. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n gilydd mewn partneriaeth i weithio drwy’r broses o weithredu'r cynnig hwn, a hefyd i ddechrau trafodaethau ar unwaith ar y camau nesaf gan gynnwys sgyrsiau ystyrlon parhaus ar natur y dyfarniad cyflog ar gyfer 23/24 a’r elfennau ychwanegol ar wahân i gyflog er mwyn gwella amodau a lles ein staff yn y GIG.

Mae'r cynnig uwch ar gyfer 22/23 yn cynnwys 3% yn ychwanegol, 1.5% yn gyfunedig ac 1.5% yn anghyfunedig ar ben y cynnydd a dalwyd yn gynharach eleni.  Gyda’i gilydd mae hyn yn cyfateb i 7.6% yn ychwanegol ym mil cyflog y GIG ar gyfer 22/23.

Hoffem ategu hefyd, pe bai trafodaethau yn Lloegr yn esgor ar gynnig i staff y GIG yn Lloegr a fyddai’n golygu symiau canlyniadol i Gymru, y byddai’r rheini wrth gwrs yn cael eu trosglwyddo ymlaen i staff y GIG yng Nghymru.

 

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am y trafodaethau pellach ac am broses o o roi’r codiad cyflog hwn ar waith.