Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar bedwerydd Sadwrn bob mis Tachwedd, caiff Holodomor ei goffáu'n rhyngwladol, gan gynnwys yng Nghymru.  Mae Llywodraeth Cymru yn coffáu Holodomor er mwyn tynnu sylw at yr hanes hir o erchyllterau a gyflawnwyd yn erbyn pobl Wcráin, er mwyn cofio'r dioddefwyr, ac er mwyn annog pobl i sefyll yn fwy cadarn gyda phobl Wcráin sydd bellach yn cael noddfa yng Nghymru.

Fis Tachwedd diwethaf fe wnaethom nodi 90 mlynedd ers Holodomor mewn digwyddiad yng Ngerddi Alexandra yng Nghaerdydd. Ddydd Sadwrn (25 Tachwedd 2023) cynhaliwyd achlysur coffa yn y Senedd, drwy nawdd ein cyd-aelod Alun Davies AS.  Arweiniwyd y digwyddiad gan y Prif Weinidog, ac roedd Gweinidogion eraill o Lywodraeth Cymru yno ynghyd ag arweinwyr o lywodraeth leol. Yn cymryd rhan hefyd roedd arweinwyr o gymunedau crefyddol Wcráin a Chymru, Gweinidog-Gwnselydd Llysgenhadaeth Wcráin yn y DU, Cymdeithas Wcreiniaid y Deyrnas Unedig, a llawer o ddinasyddion Wcráin sydd wedi cael noddfa yng Nghymru.

Gosodwyd torchau ac ysgubau o wenith i'n hatgoffa o'r gwenith a gafodd ei ddwyn gan y gyfundrefn Sofietaidd 90 mlynedd yn ôl – sy'n adleisio'n glir effaith y rhyfel presennol ar ddiogeledd bwyd yn Wcráin. Roedd y digwyddiad hefyd yn coffáu gwaith dewr y newyddiadurwr o Gymru, Gareth Jones, un o'r ychydig newyddiadurwyr Gorllewinol a adroddodd am y newyn yn Wcráin a'i achosion. Mae Gareth Jones yn dal i gael ei ystyried yn arwr yn Wcráin.

Tynnwyd sylw at Holodomor hefyd drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn ein cyfathrebu rheolaidd ag Wcreiniaid a'r rhai sydd wedi'u croesawu i'w cartrefi ledled Cymru, i godi ymwybyddiaeth.

Rydym am anrhydeddu gwytnwch a dewrder pobl Wcráin, ac rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad i gefnogi Wcreiniaid yma yng Nghymru.  Yn gynharach y mis hwn, ymwelodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip â grŵp Safe Haven ym Maesteg, canolfan gymunedol ysbrydoledig a sefydlwyd i gefnogi Wcreiniaid i ymdoddi i'r gymuned leol, a darparu gwersi Saesneg a chymorth iechyd meddwl.

Mae Llywodraeth Cymru yn gresynu'r ymddygiad ymosodol sy'n parhau yn erbyn Wcráin gan drefn Putin, a byddwn yn dal i sefyll ochr yn ochr ag Wcreiniaid sy'n byw yng Nghymru. Pryd bynnag y daw'r goresgyniad dwys hwn i ben, bydd ein cwlwm â'r Wcreiniaid sydd wedi dod i Gymru, ac â'u teulu a'u ffrindiau sydd wedi aros yn Wcráin, yn gryfach nag erioed.