Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bob blwyddyn, ar y pedwerydd Sadwrn ym mis Tachwedd, rydym yn ymuno â phobl ledled y byd i gofio Holodomor – gan dystio i bennod dywyll yn hanes dynoliaeth, a'i chyfatebol heddiw. Mae'r weithred goffa flynyddol hon yn anrhydeddu'r nifer enfawr o Wcreiniaid a ddioddefodd ac a drengodd yn y newyn a grewyd gan ddyn – hil-laddiad a gydnabyddir gan Senedd Cymru.

Heddiw (22 Tachwedd 2025), byddwn yn ymgynnull ar gyfer seremoni i nodi'r  achlysur difrifol hwn. Ynghyd ag aelodau o'r gymuned Wcreinaidd, a ffrindiau o bob cwr o Gymru, byddwn yn gosod torchau ac ysgubau o wenith - symbolau o golled ac o wytnwch. Rydym yn sefyll mewn undod gydag Wcreiniaid yma yng Nghymru a ledled y byd.

Rydym yn parhau i anrhydeddu gwaddol y newyddiadurwr a'r Cymro Gareth Jones, y daeth ei adroddiadau dewr yn 1933 ag erchyllterau Holodomor i sylw'r byd.  Mae ei waddol ef yn ein hatgoffa o rôl hanfodol newyddiadura sy'n dweud y gwir o ran datgelu anghyfiawnder a sicrhau nad yw'n cael ei ystumio na'i anghofio. 

Wrth i'r ymosodiad diymatal ar Wcráin barhau, rydym yn dal ati â'n cefnogaeth gadarn i Wcreiniaid ac Wcráin. Fis diwethaf, roedd yn destun balchder i'r Prif Weinidog gael ymweld â Hyb Wcráin Cymru, a dadorchuddio plac sy'n darllen:

"What started as a grassroots response to a crisis has blossomed into something truly remarkable. This…is a celebration not just of Ukrainian resilience, but of what we can achieve together when we open our hearts and our communities.”

Mae'r gymuned Wcreinaidd yng Nghymru wedi cyfoethogi ein cymunedau ac wedi dyfnhau'r cwlwm cyfeillgarwch rhwng ein gwledydd. Mae wedi dangos gwytnwch a dewrder rhyfeddol. Drwy ddod at ein gilydd, rydym yn goleuo'r ffordd tuag at ddyfodol mwy disglair, unedig. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu'r digwyddiad coffa eto heddiw, a hoffwn ddiolch i'r trefnwyr, Cyngor Ffoaduriaid Cymru a Senedd 4 Ukraine, yn ogystal â phawb sydd wedi cymryd rhan. Gwahoddwyd Wcreiniaid ledled Cymru i ymuno â'r digwyddiad drwy ffrwd fyw. Byddwn yn parhau i sefyll gyda'n gilydd. Slava Ukraini.